top of page

Gwerthusiad Rhaglen UKSPF Wrecsam 2025/26 - Hysbysiad Preifatrwydd

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • 3 days ago
  • 3 min read

Mae Wavehill yn gwerthuso estyniad 2025/26 rhanglen UKSPF Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan gynnwys y 24 prosiect a ariannwyd yn ogystol â’r prosiectau a ariannwyd gan y  pum Cronfa Allweddol ganlynol: 

  1. Cronfa Allweddol Cymuned a Lle 

  2. Cronfa Allweddol Busnes Wrecsam 

  3. Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau 

  4. Cronfa Allweddol Cadwyn Clwyd / AVOW 

  5. Cronfa Allweddol Dyma Wrecsam 

  

Bydd y wybodaeth a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei defnyddio i helpu Wavehill i werthuso’r rhaglen ac asesu ei perfformiad ac effaith. 


Bydd Wavehill yn cynnal cyfres o ymgynghoriadau gydag unigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol sydd wedi bod um rhan o’r cronfeydd allweddol i ehangu ein dealltwriaeth o'r prosiectau ac ymateb i'r cwestiynau gwerthuso allweddol. 


Bydd y data a roddwch yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac ni chaiff ei gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod, ag eithrio os oes gennym eich caniatâd e.e. i fod yn un o’r astudiaethau achos yn ein adroddiad


Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam nac i unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu'r prosiect hwn. Mae hwn yn asesiad annibynnol. 


Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r gwerthusiad hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad. 


Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu naill ai Rhys Maher o Wavehill (rhys.maher@wavehill.com) neu Kirsty Morris (kirsty.morris@wrexham.gov.uk) mailto:hodgso1d@gllm.ac.uk o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl: 

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 

  • Ei gwneud yn ofynnol i Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw 

  • (Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data 

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'. 

 

Cysylltwch â Kirsty os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk, neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. 

 

Mwy o wybodaeth 


Pam mae'r gwerthusiad hwn yn digwydd? 

Penodwyd Wavehill gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnal gwerthusiad proses ac effaith estyniad 2025/26 o'u rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF). 

 

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei gasglu drwy'r gwerthusiad? 

Mae'r cyfweliadau'n ceisio casglu themâu megis: 

  • Cefndir a chyd-destun y prosiect; 

  • Dylunio a rhesymeg y prosiect; 

  • Bodlonrwydd gyda’r cymorth; 

  • Cydweithio â phrosiectau eraill; 

  • Gweithredu, rheoli a chyflawni; 

  • Monitro a gwerthuso; a 

  • Cynnydd ac effeithiau cychwynnol. 

 

Beth yw data personol? 

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw. 


Bydd y gwerthusiad yn casglu data personol, megis enwau a manylion cyswllt,  er mwyn cynnal y gwerthusiad. Serch hynny, ni fydd unrhyw data personol yn cael eu rhannu gyda unrhyw un tu allan i’r tîm gwerthuso. 


Am ba hyd y mae data Wavehill yn storio data? 

Bydd data'n cael ei storio am 6 mis ar ôl cwblhau'r gwerthusiad, a ddisgwylir tua mis Ebrill 2026. 


Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir?   

Y sail gyfreithiol yw buddiant dilys. 


Beth yw pwrpas prosesu eich atebion? 

Defnyddir y data i wella dealltwriaeth tîm gwerthuso Wavehill o'r prosiect er mwyn sicrhau gwerthusiad cynhwysfawr a chadarn. 

  

Pwy sydd â mynediad i'r data a gasglwyd? 

Dim ond Wavehill fydd yn cael mynediad at unrhyw ddata personol a rennir gyda nhw. Bydd data personol yn cael ei ddileu o unrhyw allbynnau a gynhyrchir. 

 

Int. Ref.  903-25 

 
 
bottom of page