top of page

Gwerthusiad Wavehill o Camau Cefnogol: Hysbysiad Preifatrwydd

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • 2 days ago
  • 3 min read

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Mae Wavehill yn gwerthuso'r cymorth iechyd meddwl a lles a ddarperir gan eich coleg fel rhan o brosiect Camau Cefnogol. Mae'r gwerthusiad ar ran Grŵp Llandrillo Menai.


Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i helpu Grŵp Llandrillo Menai i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellir ei wella.


Mae pobl sy'n cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, neu'n ymgysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, wedi cael eu dewis gan Grŵp Llandrillo Menai. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd ddewis peidio ag ateb cwestiynau penodol os yw'n well gennych.

 

Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd y data a ddarperir yn cael ei ddefnyddio. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd neb yn gallu eich adnabod o’r hyn a gyhoeddwn


Mae Wavehill yn dîm ymchwil annibynnol ac nid ydynt yn gweithio i Grŵp Llandrillo Menai nac unrhyw sefydliadau sy'n ymwneud â darparu neu ariannu'r cymorth llesiant. Mae hwn yn werthusiad annibynnol.

 

Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r gwerthusiad hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Nikki Vousden (nikki.vousden@wavehill.com) efo Wavehill neu Zoe Fox (fox1z@gllm.ac.uk) efo Ngrŵp Llandrillo Menai.

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Grŵp Llandrillo Menai

  • Ei gwneud yn ofynnol  i Grŵp Llandrillo Menai gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu eich data

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.

 

Cysylltwch â Zoe Fox os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae eich data wedi'i drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Rhagor o wybodaeth


Pam mae'r gwaith hwn yn digwydd?

Mae Wavehill yn dîm annibynnol sy'n adolygu cymorth iechyd meddwl a lles a ddarperir gan eich coleg, fel rhan o’r brosiect Camau Cefnogol. Mae Wavehill yn ymgymryd â'r gwaith ar ran Grŵp Llandrillo Menai.


Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu?

Mae ein harolwg ac ymgysylltu rhithwir / wyneb yn wyneb yn gofyn am

  • Sut beth oedd pethau cyn i chi gael cefnogaeth.

  • Eich profiad o gael cefnogaeth.

  • Sut mae'r gefnogaeth wedi newid pethau i chi.

 

Beth yw data personol?

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion penodol i'r person hwnnw.


Mae' r arolwg yn casglu eich enw a'ch rhif ffôn os dewiswch ei ddarparu. Dim ond i gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn galwad ffôn ddilynol y defnyddir hyn. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall a byddwn yn eu dileu ar ôl i'r prosiect ddod i ben.


Pa mor hir mae Wavehill yn cadw data personol?

Bydd eich data personol yn cael ei ddileu o fewn 6 mis i ddiwedd y gwerthusiad, y disgwylir iddo orffen ym mis Mawrth 2026.


Beth yw'r sail gyfreithiol dros gasglu a phrosesu'r data a gesglwyd? 

Caniatâd. Gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl (dewiswch beidio â chymryd rhan) ar unrhyw adeg.

 

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

Mae'r data yn cael ei ddefnyddio i wella dealltwriaeth tîm Wavehill o'r gefnogaeth a ddarperir fel rhan o brosiect Camau Cefnogol. Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu Grŵp Llandrillo Menai i wella'r gefnogaeth y maent yn ei ddarparu.


Pwy sydd â mynediad at y data personol a gesglir drwy'r arolwg?

Dim ond Wavehill fydd yn cael mynediad at unrhyw ddata personol rydych chi'n ei rannu. Dim ond at ddibenion dadansoddi ac adrodd y bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio gan Wavehill Gellir defnyddio modelau dysgu iaith a meddalwedd 3ydd parti i'n helpu i brosesu data ond ni fydd hyn yn effeithio ar gyfrinachedd eich data personol.



Int. Ref. 905-25


 

 
 
bottom of page