Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o Raglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+). Nod y gwerthusiad hwn yw rhoi gwybodaeth amserol a chadarn i Lywodraeth Cymru am y broses a’r nifer sy’n manteisio ar raglen JGW+ ym mlynyddoedd 1 a 2.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau ffôn ac ar-lein gyda chyfranogwyr JGW+. Bydd y cyfweliadau’n helpu Llywodraeth Cymru i ddeall eich profiadau o’r gweithgareddau a/neu’r gyflogaeth y gwnaethoch chi gymryd rhan ynddynt yn ystod eich amser ar JGW+ a’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud ers gadael y rhaglen.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r arolygon, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Simon Tanner.
Cyfeiriad e-bost: simon.tanner@wavehill.com
Rhif Ffôn: 0330 1228 658
Hysbysiad Preifatrwydd
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.
Rhoddwyd eich manylion cyswllt (enw, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost) i Wavehill gan y coleg neu'r ganolfan lle rydych yn gwneud cwrs neu gyrsiau, lleoliad gwaith, neu gyfleoedd eraill ar Raglen JGW+. Maent yn cadw'r wybodaeth hon oherwydd eich cyfranogiad ar Raglen JGW+. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad neu rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn a ddarparwyd a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych ac eithrio eich delwedd, os ydych yn cytuno i gyfweliad gael ei recordio ar fideo.
Dymunwn recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, gellid defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn i alluogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch rhaglen JGW+.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.
Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny.
Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Eich Hawliau
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:
• I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
• I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
• Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);
• Cael eich data ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau); a
• Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif Ffôn: 0303 123 1113. Wefan: www.ico.org.uk
Gwybodaeth Pellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Kimberley Wigley
Cyfeiriad e-bost: kimberley.wigley@gov.wales
Rhif Ffôn: 03000628788
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost:DataProtectionOfficer@gov.wales.
Int. Ref 667-22