top of page
  • Wavehill

Gwerthuso Cynllun Datblygu Cadwyn Cyflenwi a Chydweithio (CDCCCh) Arolwg Gwe Rhanddeiliaid Allanol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, ymgynghorwyr ymchwil cymdeithasol ac economaidd, i gynnal gwerthusiad o'r Cynllun Datblygu Cadwyn Cyflenwi a Chydweithio (CDCCCh) fel rhan o'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) 2014-2020. Nod y gwerthusiad hwn yw archwilio effeithiolrwydd prosesau a rheolaeth y cynllun, asesu cynnydd y CDGGC yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer y cynllun, asesu a gwerthuso effaith y cynllun a darparu argymhellion a gwersi a ddysgwyd fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer buddsoddi mewn cynlluniau tebyg yn y dyfodol.


Fel rhan o'r gwerthusiad, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar y we gyda rhanddeiliaid er mwyn cael dealltwriaeth o'ch barn a'ch profiad o'r cynllun.


Llywodraeth Cymru yw rheolydd data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolygon ac yn sicrhau na fydd modd i neb gael eu hadnabod gan y data crai cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosib mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.


Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Endaf Griffiths, cyfarwyddwr prosiect


Rhif Ffôn: 0330 1228 658 | 07810 544169


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym ni ac o ble yr ydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at adnabyddwr'.Mae'r arolwg hwn ar y we gyda grŵp ehangach o fuddiolwyr (potensial) fel rhan o werthuso CDCCCh yn seiliedig ar ddull hunan-ddethol. Bydd yr arolwg yn cael ei ledaenu drwy restrau postio WRN a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Economi Wledig a rhanddeiliaid RhDG) a'u hyrwyddo drwy'r cyfryngau cymdeithasol ar ran Wavehill. Felly, oni bai eich bod wedi dilyn cyswllt cyfryngau cymdeithasol, byddai'r gwahoddiad i'r arolwg wedi cael ei anfon atoch yn seiliedig ar weithdrefnau GDPR WRN a CLlLC UK i chi gael eich cynnwys yn eu rhestrau postio. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw fanylion cyswllt i Wavehill.


Nid yw'r ymchwil yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi heblaw am un cwestiwn sy'n gofyn am eich enw, eich sefydliad, a'ch cyfeiriad e-bost fodd bynnag, dim ond os ydych chi'n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad mwy manwl y mae hyn. Nid yw cwblhau'r arolwg ei hun yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno unrhyw ddata personol arall ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu dal pan fyddwch yn cwblhau'r arolwg gan fod y canlyniadau'n ddienw. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu dychwelyd i Wavehill ac nid ydynt ar gael i unrhyw un arall a allai fod wedi anfon dolen arolwg atoch. Gwarantir anhysbysrwydd trwy Wavehill fel trydydd parti a ddarperir lle mae canlyniadau mewn adroddiadau ond yn cael eu hysgrifennu a'u cyhoeddi'n ddienw.


Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, er enghraifft mewn cwestiynau penagored, ni fyddwn yn ceisio darganfod pwy ydych chi, na cheisio eich cysylltu gyda’r ymatebion rydych yn eu darparu. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedi hynny ei ddileu o'r data ymchwil.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan ar unrhyw adeg neu ddim am gael negeseuon i'ch atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd Wavehill ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.


Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft,:

  • Mewn adroddiad gwerthuso yn asesu gweithrediad ac effeithiau CDCCCh ac wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

  • Rhoi gwybod i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau neu raglenni yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy’n gallu cyrchu'r data. Bydd Wavehill ond yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil. Mae gan Wavehill Ardystiad Cyber Essentials.


Wrth gynnal arolygon, bydd Wavehill yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Qualtrics. Rydym wedi sicrhau bod Qualtrics yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn cwrdd â'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu trwy'r feddalwedd.


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data dan amheuaeth. Os bydd amheuaeth o doriad yn digwydd, bydd Wavehill yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reolydd cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt nac unrhyw wybodaeth adnabod. Fe fydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sydd wedi ei chasglu i gynhyrchu adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu yn ystod trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw i Lywodraeth Cymru o'r data na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.


Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn mae gennych yr hawl:

  • I gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu prosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

  • I gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.


Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych ragor o gwestiynau ynglŷn â sut bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno ymarfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:


Enw: Jessica Steventon – Uwch Swyddog Ymchwil

Cyfeiriad e-bost: Jessica.Steventon@gov.wales

Rhif ffôn: 03000250480


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru.

bottom of page