top of page
  • Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Dyfodol Ffocws – Buddiolwyr

Sut rydym yn cadw a phrosesu eich gwybodaeth

Penodwyd Wavehill gan Busnes mewn Ffocws i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen Dyfodol Ffocws. Prif dasg y gwerthusiad yw mesur gwerth, effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen.

Hoffem siarad gydag unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth oddi wrth Busnes mewn Ffocws er mwyn casglu adborth ar sut maen nhw’n teimlo mae’r gefnogaeth wedi bod a beth oedd effeithiau’r gefnogaeth ar gyfer unigolion. Mae Busnes mewn Ffocws wedi rhoi eich enw a’ch manylion cyswllt i ni.

Bydd y data a ddarparwch yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r gwerthusiad hwn yn gyfrinachol. Ni chaiff eich atebion i’r arolwg eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad wedi ei seilio ar y wybodaeth, ond ni fydd hi’n bosib adnabod unigolion o hwn.

Mae hi hefyd yn bwysig nodi nad yw’r tîm sy’n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Busnes mewn Ffocws. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.

Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth a ddarparwch a’r holl ddata personol o’r ymchwil hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau mewn cysylltiad â’r gwerthusiad, teimlwch yn rhydd i gysylltu â naill ai Michael Pang, sy’n arwain y gwerthusiad (michael.pang@wavehill.com) neu Alison Hitchen, Rheolwr Rhaglen Dyfodol Ffocws (alisonh@businessinfocus.co.uk).


O dan y deddfau diogelu data newydd, mae gennych chi’r hawl i:

  • Gael mynediad at eich data personol a gedwir gan y rhaglen Dyfodol Ffocws.

  • I fynnu bod Busnes mewn Ffocws yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • I (o dan rhai amgylchiadau) wrthwynebu i neu gyfyngu ar y prosesu.

  • I fynnu (o dan rhai amgylchiadau) bod eich data yn cael ei ‘ddileu’.

Cysylltwch ag Alison Hitchen os hoffech wneud unrhyw un o’r rhain mewn cysylltiad â’r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth y DU ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.org.uk, neu drwy ysgrifennu at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth bellach


1. Pam cynnal yr ymchwil hwn?

​Comisiynwyd Wavehill gan Busnes mewn Ffocws i gynnal astudiaeth ymchwil a gwerthuso o’u rhaglen Dyfodol Ffocws. Mae Dyfodol Ffocws yn darparu cefnogaeth i unigolion ledled Cymru. Fel rhan o’r amodau ariannu, mae’n rhaid cynnal gwerthusiad annibynnol er mwyn nodi arferion gorau a helpu’r hyn a ddysgir ac etifeddiaeth y rhaglen i lywio darpariaeth yn y dyfodol.


Mae gan Busnes mewn Ffocws ddiddordeb yn effeithiau’r ddarpariaeth ar yr unigolion a gefnogwyd, adborth ar sut cafodd y rhaglen ei threfnu a’i rheoli, a syniadau ar sut gellir gwella pethau.

2. Pa fath o wybodaeth a gesglir drwy’r arolwg?

​Mae’r arolwg yn ffocysu ar farn am sut y cafodd y rhaglen Dyfodol Ffocws ei rheoli a’i darparu ac unrhyw ddeilliannau ymddangosiadol o ganlyniad i’r rhaglen.

3. Beth yw data personol?

​Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.

4. Am ba hyd gaiff data personol ei gadw?

​Bydd Wavehill yn cadw data personol dros gyfnod y cytundeb ond bydd yn ei ddileu chwe mis wedi diwedd y cytundeb.

5. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu’r data a gesglir drwy’r arolwg?

​Mae’r gwerthusiad o’r rhaglen Dyfodol Ffocws yn caniatáu i Busnes mewn Ffocws i ddeall a yw’r rhaglen yn gweithio’n effeithiol. Mae e felly’n cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau o fewn Busnes mewn Ffocws. Er enghraifft, efallai y defnyddir y wybodaeth a gesglir i:

  • Benderfynu a ddylai rhaglenni fel Dyfodol Ffocws barhau yn y dyfodol

  • Ddeall y dulliau gorau i greu ffyrdd newydd o gefnogi unigolion.

Cynhelir y gwerthusiad gan Wavehill ar ran Busnes mewn Ffocws. Mae eich cyfraniad i’r ymchwil fel unigolyn yn wirfoddol.

6. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r arolwg?

​Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Caiff y data ei ddadansoddi er mwyn caniatáu i Busnes mewn Ffocws i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen Dyfodol Ffocws. Bydd hyn yn helpu Busnes mewn Ffocws i ddarganfod a yw’r rhaglen yn medru darparu mewnwelediad newydd i sut y gellid gwella mentrau cefnogaeth cyflogaeth yn y dyfodol. Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachol na marchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy’r arolwg?

​Bydd gan Wavehill gopi o’r data personol er mwyn medru cynnal yr arolwg.


Caiff yr atebion a gesglir eu dadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill er mwyn cynhyrchu adroddiad ar gyfer Busnes mewn Ffocws. Ni fydd yr adroddiad hwn yn ei gwneud hi’n bosib adnabod unrhyw unigolion a gymrodd ran yn yr ymchwil ac ni chaiff data a ellir ei briodoli ei rannu gan Busnes mewn Ffocws nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu’r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd gan Busnes mewn Ffocws fynediad at y data personol a gesglir drwy’r cyfweliadau.


bottom of page