top of page
  • Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Gwerthusiad o Adeiladu ar gyfer y Dyfodol – Cyfweliadau efo Rhanddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o raglen Llywodraeth Cymru, Adeiladu ar gyfer y Dyfodol. Nod y gwerthusiad yw deall a yw Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn gweithio’n effeithiol i gyflawni ei nodau i gynorthwyo i adfywio canol trefi a’r ardaloedd cyfagos, gan gefnogi strategaeth economaidd ranbarthol neu drefol drwy fynd i’r afael â thir neu adeiladau segur sydd dim yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn rydym yn dymuno siarad â sefydliadau rhanddeiliaid a buddiolwyr.

Nod y cyfweliad yw casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan sefydliadau rhanddeiliaid a buddiolwyr ar ba mor dda y cafodd y rhaglen ei rhedeg, i ba raddau y mae’r rhaglen wedi cyflawni ei nodau, a sut y gallai’r rhaglen esblygu.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru, ac o bosibl cyhoeddiadau eraill, gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r cyfweliadau ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr arolwg hwn yn Wavehill yw Oliver Allies.

Rhif ffôn: 01179 902814

Ebost: oliver.allies@wavehill.com

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD – CYFWELIADAU EFO RHANDDEILIAID

Pa fanylion personol sydd gennym ac o ble y cawsom eich manylion?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i'w adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr”.

Cafodd eich sefydliad a’ch manylion cyswllt eu nodi o ddata a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses ymgeisio am gronfeydd Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, neu drwy adroddiadau cynnydd prosiect a gyflwynwyd gan sefydliadau buddiolwyr sy’n derbyn arian Adeiladu ar gyfer y Dyfodol.

Nid yw'r cyfweliad yn gofyn am gasglu unrhyw ddata personol ychwanegol. Fodd bynnag, os yw data personol yn cael ei ddarparu mewn ymatebion cwestiwn penagored, nid ydym yn ceisio eich adnabod o’r ymatebion a roddwch, nac yn cysylltu eich hunaniaeth â nhw.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sydd yn ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Ar ôl derbyn y data crai, bydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei dileu a bydd y canlyniadau'n cael eu gwneud yn ddienw.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer casglu'r data?

Sail gyfreithlon prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:

  • Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r Rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol.

  • Penderfynu a ddylai cynlluniau fel Adeiladu ar gyfer y Dyfodol barhau yn y dyfodol

  • Deall y ffyrdd gorau i Lywodraeth Cymru helpu i adfywio canol trefi a’r ardaloedd cyfagos, a chefnogi strategaethau economaidd rhanbarthol neu drefol yng Nghymru.

Pa mor ddiogel yw unrhyw ddata personol a gyflwynir?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder ‘storfa ddata ddiogel’ ar weinydd Wavehill. Wrth gynnal cyfweliadau, bydd Wavehill yn defnyddio meddalwedd sy’n cydymffurfio â GDPR ac sy’n bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. bydd yr holl ddata’n cael ei brosesu yn y DU). Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Wavehill.

Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y gwerthusiad all ddefnyddio'r data. Bydd ymchwilwyr Wavehill ond yn defnyddio manylion cyswllt cyfranogwyr i gysylltu â nhw at ddibenion ymchwil.

Mae Wavehill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd y data yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r data i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. Yn ogystal, bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r set ddata i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd y set ddata yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych. Yn benodol, bydd eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill yn cael eu dileu o'r set ddata hon.

Am ba mor hir ydych chi'n cadw unrhyw ddata personol a gyflwynir?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i dynnu o ymatebion arolwg yn cael ei ddileu dri mis ar ôl diwedd y contract.

Eich Hawliau

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, mae gennych hawl i:

  • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau);

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113. Wefan: www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


Andrew Booth (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru)

Ebost: andrew.booth@gov.wales

Rhif ffôn 03000 250282


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Ebost: DataProtectionOfficer@gov.wales.


bottom of page