Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth
Penodwyd Wavehill gan Cadwyn Clwyd i gynnal gwerthusiad o'r broses o weithredu’r rhaglen LEADER yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Yn y bôn, rydym yn edrych ar ba mor dda y mae'r rhaglen wedi'i rheoli a pha wahaniaeth y mae'n ei wneud yn yr ardaloedd yna.
Fel rhan o'r gwerthusiad, byddwn yn:
Siarad ag aelod o'r Grŵp Gweithredu Lleol sy'n goruchwylio'r gwaith o reoli a darparu'r rhaglen yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam;
Siarad â rhanddeiliaid allweddol sy'n gweithio ym maes datblygu cymunedol ac economaidd yn yr ardaoedd; a
Siarad â a/neu'n dosbarthu arolygon i brosiectau a ariannwyd gan y rhaglen yn ogystal â rhai o'r rheini a fu’n ymwneud â ' r prosiectau hynny
Mae cymryd rhan mewn unrhyw un o'r uchod yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan neu gallwch ddewis peidio ag ateb cwestiynau penodol os yw'n well gennych.
Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd y data a ddarparant yn cael ei ddefnyddio. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r cyfweliad yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Bydd Wavehill yn llunio adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn nodi unrhyw unigolion.
Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Cadwyn Clwyd nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â darparu neu ariannu'r prosiect hwn. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.
Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â naill ai Endaf Griffiths, sy ' n arwain y gwerthusiad (Endaf.Griffiths@wavehill.com) neu Adam Bishop, Cydlynydd y Rhaglen, Cadwyn Clwyd (01490 340 500 | adam.bishop@cadwynclwyd.co.uk).
Gallwch hefyd gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru trwy e-bostio Dataprotectionofficer@gov.wales.
O dan y ddeddfwriaeth newydd ar ddiogelu data, mae gennych hawl:
I weld pa ddata personol sy ' n cael ei gadw gan Cadwyn Clwyd.
Ei gwneud yn ofynnol i Cadwyn Clwyd gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data.
I (mewn amgylchiadau penodol) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.
I gael eich data cael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau).
Cysylltwch ag Adam Bishop os hoffech wneud unrhyw rai o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Os oes gennych unrhyw bryder am sut mae eich data yn cael ei thrin gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheolydd annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.gov.uk, neu ysgrifennu at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, swydd Gaer, SK9 5AF.
Gwybodaeth bellach
1. Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?
Mae ' r gwerthusiad yn asesu pa mor dda y rheolwyd y rhaglen LEADER a pha wahaniaeth y mae'n ei wneud yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
2. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu gan y gwerthusiad?
Bydd y cyfweliadau a'r arolygon a gynhaliwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn yn casglu ystod o wybodaeth gan gynnwys; (a) safbwyntiau ar ba mor dda y mae'r rhaglen a'r prosiectau y mae wedi'u cefnogi yn cael eu rheoli a'u darparu; a (b) tystiolaeth am yr hyn sydd wedi'i gyflawni gan y rhaglen yn ei chyfanrwydd yn ogystal â'r prosiectau unigol.
3. Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabodiad unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion penodol i'r person hwnnw.
4. Am ba hyd y cedwir data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl i'r contract ddod i ben.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir drwy'r arolwg?
Mae'r gwerthusiad o'r rhaglen LEADER yn galluogi Cadwyn Clwyd a'r Grŵpiau Gweithredu Lleol i ddeall a yw'r rhaglen yn gweithio'n effeithiol. Er enghraifft, gellid defnyddio ' r wybodaeth a gesglir:
Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r rhaglen LEADER
Penderfynu a ddylai cynlluniau fel y rhaglen LEADER barhau yn y dyfodol
I ddeall y ffyrdd gorau i gefnogi sefydliadau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Comisiynwyd y gwerthusiad gan Cadwyn Clwyd ar ran y Grŵpiau Gweithredu Lleol. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.
6. Beth yw diben prosesu eich atebion yn ystod y cyfweliad neu'r arolwg?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Caiff y data ei ddadansoddi er mwyn galluogi Cadwyn Clwyd a'r Grŵpiau Gweithredu Lleol i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen LEADER. Bydd hyn yn helpu Cadwyn Clwyd a'r Grŵpiau Gweithredu Lleol i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r rhaglen. Ni fydd y data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
7. Pwy sy'n cael gweld y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?
Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg a bydd yn cipio enwau, rolau swyddi ac enwau sefydliadau yn ystod y cyfweliadau a/neu'r arolygon.
Bydd Wavehill yn gwneud cofnod ysgrifenedig o'r drafodaeth yn ystod y cyfweliad. Bydd y nodiadau hyn, ynghyd â chanlyniadau'r arolwg, yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr Wavehill i lunio adroddiad ar gyfer Cadwyn Clwyd a'r Grŵpiau Gweithredu Lleol. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau'n cael eu rhannu gyda Cadwyn Clwyd na neb arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd gan Cadwyn Clwyd fynediad at ddata personol a gesglir drwy'r cyfweliadau.
Opmerkingen