top of page
  • Writer's pictureWavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Pen y Cymoedd – Arolygon ac astudiaethau achos

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Penodwyd Wavehill gan Gwmni Budd Cymunedol Pen y Cymoedd (CBC) i gynnal gwerthusiad annibynnol o Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Mae'r gwerthusiad yn edrych ar ba mor dda y mae'r Gronfa wedi'i rheoli a pha wahaniaeth y mae'r cyllid yn ei wneud yn yr ardal leol.

 

Hoffem glywed gan sefydliadau sydd wedi gwneud cais am grant gan y Gronfa, i gasglu adborth ar yr hyn y mae eich prosiect wedi'i gyflawni hyd yma a sut rydych chi'n gwerthuso canlyniadau eich gweithgareddau.

 

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ysgrifennu adroddiad ar gyfer Pen y Cymoedd, a fydd yn gwerthuso'n annibynnol y ffordd y mae'r Gronfa yn cael ei rheoli a beth mae'r cyllid yn ei gyflawni. Mae hwn yn werthusiad parhaus gydag adroddiadau'n cael eu cynhyrchu'n flynyddol. Bydd y cyfweliad hwn yn cyfrannu at adroddiad a fydd yn cael ei ysgrifennu ym mis Gorffennaf 2024.

 

Casglwyd eich manylion o'r wybodaeth a ddarparwyd gennych fel rhan o'ch cais i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd. Fodd bynnag, mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan, neu gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.

 

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio at ddibenion y gwerthusiad yma yn unig. Bydd sylwadau a wnewch yn gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu priodoli i chi oni bai bod gennym eich caniatâd i wneud hynny.

 

Sylwer, gan fod hyn yn werthusiad parhaus, bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei gadw er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol. Bydd Wavehill yn dileu eich gwybodaeth gyswllt o'n systemau o fewn tri mis i ddiwedd y contract.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cyfweliadau neu'r gwerthusiad yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Nikki Vousden efo Wavehill (nikki.vousden@wavehill.com | 0330 1228658) neu  Kate Breeze  (kate@penycymoeddcic.cymru)  neu Shayla Walsh (shayla@penycymoeddcic.cymru) efo Pen y Cymoedd CBC. Gallwch hefyd gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru ar DataProtectionOfficer@gov.wales.

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Pen y Cymoedd.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Pen y Cymoedd gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data

  • (Mewn rhai amgylchiadau) cael eich data ei 'ddileu'.


Cysylltwch â'r Kate Breeze os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk  neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Mwy o wybodaeth

Pam mae'r ymchwil yma'n digwydd?

Nod y gwerthusiad yw edrych ar ba mor dda y mae'r Gronfa wedi'i rheoli a pha wahaniaeth y mae'r cyllid yn ei wneud yn yr ardal leol.

 

Rydym yn awyddus i siarad â sefydliadau a wnaeth gais am arian o'r gronfa i gael adborth ar y broses ymgeisio ac, os derbyniwyd cyllid, beth mae'r prosiect hwnnw wedi'i gyflawni.

 

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei gasglu drwy'r arolwg?

Mae'r cyfweliad yn canolbwyntio ar eich profiad o'r broses ymgeisio a'r cymorth / cyllid sydd ar gael drwy Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd a sut rydych wedi bod yn defnyddio'r arian.

 

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.

Am ba hyd y cedwir data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu o fewn tri mis i ddiwedd y contract.

 

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir drwy'r arolwg?

Mae'r gwerthusiad o Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn galluogi CIC Pen y Cymoedd i ddeall a yw'r Gronfa yn gweithio'n effeithiol. Fe'i defnyddir felly i gefnogi gweithgareddau o fewn tasg gyhoeddus CIC Pen y Cymoedd. Hynny yw, rôl a swyddogaethau craidd CIC Pen y Cymoedd. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd:

  • I benderfynu a oes angen gwneud newidiadau i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

  • I benderfynu a ddylai arian fel Pen y Cymoedd barhau yn y dyfodol

  • Deall y ffyrdd gorau o gefnogi sefydliadau yn yr ardal leol.


Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i'r cyfweliad?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data'n cael ei ddadansoddi i alluogi Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y Gronfa. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r Gronfa a sut y dylai cymorth i sefydliadau ddatblygu yn y dyfodol. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn neu'ch sefydliad.

 

Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r cyfweliad?

​Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg a bydd yn dal rhif ffôn ac e-bost yn ystod yr arolwg hwn.

Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Ni fydd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cael mynediad at ddata personol a gesglir drwy'r cyfweliadau.

 

Internal Ref. 302-17

bottom of page