top of page
  • Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd: safleoedd datblygu Cyflogaeth Strategol Ty Du a Stad Lawns

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Penodwyd Wavehill gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynnal gwerthusiad o ddau safle datblygu: Datblygiad Safle Cyflogaeth Strategol Tŷ Du yn Nelson a datblygiad Safle Cyflogaeth Strategol Ystad Lawns yn Rhymni. Nod y gwerthusiad yw mesur effeithiolrwydd ac effaith y gweithrediadau.

Hoffem gynnal trafodaethau ag amrywiol randdeiliaid sydd â chysylltiadau â gweithrediadau Tŷ Du a/neu Ystad Lawns, neu sydd â rhan ynddynt. Y nod fydd casglu barn am sut mae'r gweithrediadau wedi'u cyflawni a beth fu'r canlyniadau, gan gynnwys busnesau newydd yn cymryd tenantiaeth yn y safleoedd newydd. Er mwyn galluogi Wavehill i gynnal y cyfweliadau, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu cyfeiriad e-bost i Wavehill, o'r rhanddeiliaid sydd wedi rhoi caniatâd i'w e-bost gael ei drosglwyddo iddynt, er mwyn i Wavehill gysylltu â'r rhanddeiliad mewn perthynas â'r dibenion a amlinellir uchod ac isod.

Dim ond ar gyfer ddibenion y gwerthusiad yma y bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r gwerthusiad yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r cyfweliad yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i ryw un i adnabod chi. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hwn yn enwi unrhyw unigolion.

Mae'n hefyd bwysig i nodi bod y tîm sy'n cynnal y gwerthusiad dim yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â darparu neu ariannu gweithrediadau datblygu Tŷ Du neu Ystâd Lawn. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.

Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth rydych yn darparu a’r holl ddata personol sy’n ymwneud â’r ymchwil hwn erbyn Mehefin 2023 (chwe mis ar ôl diwedd y gwerthusiad).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu ag Oliver Allies sy’n cyfarwyddo’r tîm sy’n cynnal y gwerthusiad efo Wavehill (oliver.allies@wavehill.com | 01545 571711) neu gallwch cysylltu efo Paul Hudson, Rheolwr Tîm Busnes, Menter ac Adnewyddu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (hudsop@caerphilly.gov.uk).

Ar gyfer ymholiadau am diogelwch data gallwch hefyd gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru DataProtectionOfficer@gov.wales.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Wavehill a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas â'r gwerthusiad hwn

  • Ei gwneud yn ofynnol i Wavehill a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau).

  • Er mwyn (mewn rhai amgylchiadau) cael eich data ei ‘ddileu’.

Cysylltwch â Paul Hudson (CBS Caerffili) neu Oliver Allies (Wavehill) os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â’ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheolydd annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.org.uk , neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

Gwybodaeth bellach

Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?

Comisiynwyd Wavehill gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynnal gwerthusiad o ddau safle: Safle Cyflogaeth Strategol Tŷ Du, Nelson a Safle Cyflogaeth Strategol Ystâd Lawns, Rhymni. Mae gan Wavehill ddiddordeb yng nghanlyniadau ac effeithiau'r ddau weithrediad yn ogystal â sut y cawsant eu rheoli a'u cyflawni.

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r trafodaethau gwerthuso?

Bydd y trafodaethau’n canolbwyntio ar farn rhanddeiliaid ar y safleoedd newydd, eu profiadau mewn perthynas â chyflawni’r gweithrediad neu’r nifer sy’n manteisio ar y denantiaeth, a pha ganlyniadau ac effaith (os o gwbl) sydd wedi deillio ohonynt.

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.

Am ba mor hir y bydd data personol yn cael ei gadw?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract (sydd i fod i ddod i ben ym mis Rhagfyr 2022).

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu’r data a gasglwyd drwy’r trafodaethau gwerthuso?

Mae'r gwerthusiad yn adolygiad annibynnol o gyflawniad ac effaith gweithrediadau Cyflogaeth Strategol Ystadau Tŷ Du a Lawns. Mae gwerthusiad annibynnol yn ofynnol ar gyfer pob cynllun a ariennir gan Raglen Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yr Undeb Ewropeaidd. Yn ogystal ag arian cyfatebol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (ac, yn achos gweithrediad Tŷ Du, Llywodraeth Cymru), mae’r datblygiad wedi’i ariannu’n rhannol gan Flaenoriaeth Cysylltedd a Datblygu Trefol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014 – 2020, ac mae'r gwerthusiad yn un o ofynion y cyllid hwnnw.

Mae'r gwerthusiad wedi'i gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a bydd yn cael ei ddefnyddio i adolygu perfformiad gweithrediadau Tŷ Du ac Ystâd Lawns a gwneud argymhellion ar gyfer gweithrediadau o'r math hwn yn y dyfodol.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil yn wirfoddol a gallwch wrthod cymryd rhan unrhyw bryd cyn neu yn ystod y drafodaeth.

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r trafodaethau gwerthuso?

Defnyddir y data at ddibenion gwerthuso yn unig. Bydd y data'n cael ei ddadansoddi i alluogi Wavehill i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y ddau weithrediad. Bydd hyn yn helpu Wavehill i:

Penderfynu a yw'r gweithrediadau wedi cyflawni eu hamcanion perfformiad

Nodi arfer da wrth gyflwyno'r prosiect

Rhoi mewnwelediad i sut y gellid darparu cynlluniau datblygu yn y dyfodol yn well

Pennu canlyniadau ac effeithiau ehangach y ddau weithrediad.

Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

Pwy sydd â mynediad i’r data personol a gasglwyd drwy’r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gasglu'r data. Bydd y data yn cynnwys enw, rôl swydd, sefydliad, cyfeiriad e-bost gwaith a rhif ffôn cyswllt.

Bydd Wavehill yn paratoi cofnod ysgrifenedig o'r drafodaeth. Bydd y nodiadau hyn yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau trafod yn cael eu rhannu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nac unrhyw unigolyn neu sefydliad arall fynediad at ddata personol a gesglir neu a gadarnhawyd yn ystod y trafodaethau.


bottom of page