top of page
  • Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd WULF

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth


Mae Wavehill wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) 2019-2022. Mae WULF yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddatblygu’r gweithlu yng Nghymru. Lansiwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 1999 er mwyn meithrin gallu o fewn y mudiad Undebau Llafur er mwyn cynyddu ymgysylltiadau dysgu efo unigolion a chyflogwyr. Ers ei sefydlu, mae rhaglen WULF wedi cynorthwyo ac annog ystod eang o ddysgu ac yn cefnogi aelodau Undeb a rhai nad ydynt yn Undeb mewn amrywiaeth o weithleoedd ledled Cymru.


Bydd y gwerthusiad yn asesu a yw rownd 2019-2022 wedi bodloni ymrwymiad Llywodraeth Cymru fel y’i nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, yn asesu effeithiolrwydd y rhaglen ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliannau a’i gallai eu cynnwys yn y ddarpariaeth bresennol ac yn y dyfodol.


Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau ac arolygon gyda staff allweddol yn yr Undebau sy'n ymwneud â'r prosiect, Cynrychiolwyr Dysgu Undebau (CDU) a chyflogwyr sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen. Mae eich manylion cyswllt wedi’u darparu i ni gan Lywodraeth Cymru neu (os ydych yn CDU neu’n gyflogwr) yr Undeb yr ydych wedi ymgysylltu efo fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o raglen WULF.


Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd fel rhan o’r ymchwil hwn, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r ymchwil yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod chi neu eich sefydliad. Dim ond ar gyfer gwerthusiad Wavehill y defnyddir y wybodaeth. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hwn yn nodi unrhyw unigolion. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru.


Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio'r dull o weithredu rhaglen WULF yn y dyfodol a chynlluniau tebyg o'r math hwn.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies oliver.allies@wavehill.com


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Llywodraeth Cymru yw Jonathan Bloomer jonathan.bloomer001@gov.wales


Gwybodaeth bellach


1. Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

​ Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau ac arolygon naill ai dros y ffôn, ar-lein neu gan ddefnyddio Microsoft Teams. Rhoddwyd eich manylion cyswllt i Wavehill gan Lywodraeth Cymru neu os ydych yn CDU neu’n gyflogwr yr undeb y buoch yn ymwneud efo.


Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am unrhyw gasgliad o ddata personol ychwanegol.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol a bydd Wavehill dim ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion cysylltu efo chi ar gyfer yr ymchwil yma.


2. Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.


Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:

• Asesu cynllun rhaglen WULF.

• Asesu cryfderau model cyflawni presennol WULF.

• Amlygu unrhyw ffactorau a allai fod wedi rhwystro neu wella effeithiolrwydd cyflwyno’r rhaglen WULF.


3. Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder ‘storfa ddata ddiogel’ ar weinyddion Wavehill. Wrth gynnal arolygon, bydd Wavehill yn defnyddio meddalwedd arolwg sy’n cydymffurfio â GDPR ac sy’n bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. bydd yr holl ddata’n cael ei brosesu o fewn yr AEE).


Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y gwerthusiad all ddefnyddio'r data. Bydd ymchwilwyr Wavehill ond yn defnyddio manylion cyswllt cyfranogwyr i gysylltu â nhw at ddibenion ymchwil.


Mae Wavehill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny. Mae gan Wavehill ardystiad ‘Cyber ​​Essentials’ dilys.


Bydd yr holl ddata a gesglir trwy'r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gan Wavehill a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


4. Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych. Disgwylir i’r contract ddod i ben ym mis Ebrill 2023.


5. Eich Hawliau fel Unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r ymchwil hwn, mae gennych yr hawl:


• I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

• Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

• Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);

• (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu' ; a

• Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.


Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif Ffôn: 0303 123 1113.


6. Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarparwyd fel rhan o’r ymchwil hwn yn cael ei ddefnyddio neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â Jonathan Bloomer jonathan.bloomer001@gov.wales


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru trwy ysgrifennu:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,


Internal only. Ref 699-22

bottom of page