top of page
  • Writer's pictureOliver Allies

Llywodraeth Cymru yn rhyddhau gwerthusiad o’r Rhaglen Prentisiaeth Gradd

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad gwerthuso cyntaf mewn cyfres, sy’n canolbwyntio ar y Rhaglen Prentisiaeth Gradd yng Nghymru. Roedd y gwaith, a wnaed gan Wavehill, yn cynnig mewnwelediadau annibynnol, a ganfyddwyd o ganlyniad i ddefnyddio dulliau yn seiliedig ar dystiolaeth. Darparwyd adolygiad manwl o’r llenyddiaeth berthnasol, ac ymgysylltwyd â 22 o randdeiliaid allweddol oedd yn ymwneud â chynllunio, rheoli gweithredu, a chyflwyno’r Prentisiaethau Gradd, er mwyn darparu mewnwelediadau allweddol; roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn llywio’r gwaith o ddatblygu ‘damcaniaeth newid’ ar gyfer y rhaglen. Hwyluswyd y gwaith hwn drwy gynnal gweithdy, dan ofal Wavehill, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CCAUC a Phrifysgolion Cymru. Mae’r adroddiad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Wavehill yn parhau i weithio ar ail gam y gwerthusiad, a chaiff yr adroddiad terfynol ei ryddhau yn gynnar yn 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, neu am ein portffolio gwerthuso eang, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Oliver Allies.

bottom of page