top of page
  • Writer's pictureEndaf Griffiths

Mae Wavehill bellach yn fusnes sy’n eiddo i’w weithwyr – pam wnaethom ni hynny


Yn ôl yn haf 2019, roedd y Cyfarwyddwyr yma yn Wavehill yn trafod yr heriau fydd yn wynebu’r cwmni dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio olyniaeth a’r ffordd orau o wobrwyo ymrwymiad staff Wavehill. Ysgogwyd y trafodaethau hyn yn rhannol gan ymchwil yr oeddem wedi’i chwblhau’n ddiweddar ar fater cynllunio olyniaeth ar gyfer busnesau, ymchwil a ddangosodd yn glir pa mor bwysig yw cynllunio ar gyfer y dyfodol. Penllanw’r trafodaethau hynny ychydig wythnosau’n ôl, ar ôl llawer iawn o waith y tu ôl i’r llenni, oedd sefydlu Wavehill fel busnes sy’n eiddo i’w weithwyr.


Roedd ein huchelgais, sy’n sail i’r newid hwn, yn cyd-fynd yn dda â chynnwys yr uwchgynhadledd Community Wealth Building Summit a ‘fynychais’ ar 8 Tachwedd. Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn, yn llawn trafodaethau ynghylch sut y gall a sut y mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn cael ei ddefnyddio i ailadeiladu a diwygio economïau lleol, yn enwedig ar ôl COVID-19. Mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ddull sy’n canolbwyntio ar bobl wrth ddatblygu economi lleol, a’i nod yw ad-drefnu economïau lleol fel nad yw cyfoeth yn cael ei echdynnu ond ei ailgyfeirio’n ôl i’r cymunedau. Mae’n werth darllen crynodeb blynyddol The National Organisation for Local Economies (CLES) o’r newid a fu ym mholisi ac arfer y dasg o adeiladu cyfoeth cymunedol: https://cles.org.uk/publications/community-wealth-building-2020/


Cyfeiriwyd sawl tro yn ystod y dydd at fusnesau sy’n eiddo i’w gweithwyr - cwmnïau lle mae gan bob gweithiwr ran ‘arwyddocaol ac ystyrlon’ yn y busnes. Mae hyn yn golygu bod gan gyflogeion nid yn unig gyfran ariannol yn y busnes (er enghraifft, drwy fod yn berchen ar gyfranddaliadau) ond hefyd lais yn y ffordd mae’n cael ei redeg. Yn ein model ni, rydym wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf o gyfranddaliadau’r cwmni i Ymddiriedolaeth sy’n eu dal ar ran y staff. Goruchwylir yr Ymddiriedolaeth gan Ymddiriedolwyr (sy’n cynnwys mwyafrif o gyflogeion, a chynrychiolydd allanol annibynnol) sy’n gofalu am fuddiannau’r staff.


Mae’n amlwg fod pobl yn gofyn i ni pam ein bod wedi strwythuro’r cwmni fel hyn, ac mae’n ddiddorol fod rhagdybiaeth, mae’n ymddangos, fod cysylltiad rhwng hynny a’r pandemig COVID-19 ac effaith hwnnw ar y busnes. Mewn gwirionedd, fel y nodwyd uchod, rydym wedi bod yn symud tuag at newid y busnes i fod yn fusnes sy’n eiddo i’w weithwyr ers cryn amser, ymhell cyn yr achosion o COVID-19.


Felly pam wnaethom ni hynny? Olyniaeth oedd un o’r rhesymau a nodwyd uchod. Fodd bynnag, mae dod yn fusnes sy’n eiddo i’w weithwyr yn beth cadarnhaol i’w wneud am lu o resymau eraill, a dyna pam y daeth yn bwnc trafod yn uwchgynhadledd CLES. Mae’r pethau cadarnhaol hyn yn cynnwys caniatáu i staff gael mwy o lais yn natblygiad y busnes (sydd â phob math o fanteision canlyniadol) ac, yn bwysig, gellir rhannu’r manteision wrth i’r busnes (gobeithio) barhau i dyfu. Oherwydd bod staff y cwmni yn byw o fewn y gymuned leol – mae’n creu mwy o gysylltiad rhwng y busnes a’r economi a’r gymuned leol, ac felly mae’n gysylltiedig ag adeiladu cyfoeth cymunedol.


Felly, drwy wneud y newid hwn, teimlwn ein bod ar y naill law wedi rhoi strwythur ar waith sy’n help i ddiogelu strwythur y busnes wrth symud ymlaen, ac ar y llaw arall yn gwobrwyo’r staff am eu hymrwymiad i’r busnes, ac yn gwella’r effaith y gallwn ei chael ar yr economi a’r gymuned leol.


Cefnogwyd y broses o drosglwyddo Wavehill i fod yn fusnes sy’n eiddo i’w weithwyr gan Berchnogaeth Gweithwyr Cymru sy’n rhan o Fusnes Cymdeithasol Cymru, sy’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. https://employeeownershipwales.co.uk

bottom of page