top of page

O Ddrws i Ddrws: Hysbysiad Preifatrwydd

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • 4 days ago
  • 3 min read

Sut rydym yn cadw a phrosesu eich gwybodaeth

Mae O Ddrws i Ddrws yn wasanaeth trafnidiaeth gymunedol sydd wedi cefnogi trigolion ardal Llŷn ers 2002. Sefydlwyd y gwasanaeth i helpu pobl a fyddai fel arall yn cael trafferth cyrraedd lleoedd hanfodol – fel siopau, apwyntiadau meddygol, gweithgareddau cymunedol, neu ymweliadau cymdeithasol – oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig neu anawsterau cyrchu cerbyd.


Mae Wavehill, cwmni ymchwil annibynnol, wedi cael ei gomisiynu i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth. Rydym yn casglu eich gwybodaeth i ddeall sut mae gwasanaeth O Ddrws i Ddrws yn gweithio ac i asesu ei effaith ar ddefnyddwyr a'r gymuned ehangach. Mae cyfranogiad yn wirfoddol - gallwch ddewis peidio ag ateb cwestiynau penodol neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg.

Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y defnyddir yr wybodaeth a ddarperwch. Bydd tîm O Ddrws i Ddrws yn  casglu eich ymatebion a'u hychwanegu at system arolwg ddiogel Wavehill, SurveySparrow. Yna bydd Wavehill yn prosesu a storio'r data yn ddiogel. Bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac ni fydd modd ei adnabod mewn unrhyw adroddiad. Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth a ddarperir gennycha'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r gwerthusiad hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Nikki Vousden (nikki.vousden@wavehill.com) yn Wavehill neu Wil Parry yn O Ddrws i Ddrws (WilParry@outlook.com).

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad i'ch data personol a gedwir gan O Ddrws i Ddrws

  • Ei gwneud yn ofynnol  i O Ddrws i Ddrws gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)

  • Gofyn i’ch data gael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau)

 

Cysylltwch â Wil Parry os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.


Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae eich data wedi'i drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

 

Rhagor o wybodaeth


1.      Pam mae'r gwaith hwn yn digwydd?

Rydym yn gofyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth ddarparu adborth fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio'n dda, sut y gallwn wella, ac o'r effaith y mae'r gwasanaeth yn ei chael ar unigolion a'r gymuned. Mae cyfranogiad yn wirfoddol - gallwch ddewis peidio ag ateb cwestiynau penodol neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg.

 

2.      Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu?

Gofynnwn i gyfranogwyr rannu eu barn ar yr hyn sy'n gweithio'n dda, yr hyn y gellid ei wella, a sut maen nhw wedi elwa o'r gwasanaeth. Er mwyn ein helpu i ddeall pwy sy'n defnyddio'r gwasanaeth, rydym hefyd yn gofyn am rywfaint o wybodaeth amdanoch chi.

 

3.      Beth yw data personol?

Mae ‘data personol’ yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n gallu arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion penodol i'r person hwnnw.


Bydd yr holl ddata’n cael ei ddienwi Bydd unrhyw sylwadau a wnewch yn gyfrinachol a dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio.

Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.


4.      Pa mor hir mae Wavehill yn cadw data personol?

Bydd eich data personol yn cael ei ddileu o fewn 6 mis i ddiwedd y gwerthusiad (disgwylir iddo fod ym mis Mawrth 2026).


5.      Beth yw'r sail gyfreithiol dros gasglu a phrosesu'r data a gesglwyd? 

Diddordeb cyfreithlon. Gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl (dewiswch beidio â chymryd rhan) ar unrhyw adeg.

 

6.      Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

Mae'r data yn cael ei ddefnyddio i wella dealltwriaeth tîm Wavehill o'r prosiect. Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu  tîm O Ddrws i Ddrws i ddysgu a gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth.


7.      Pwy sydd â mynediad at y data personol a gesglir drwy'r arolwg?

Bydd y data'n cael ei gasglu a'i roi ym meddalwedd arolwg Wavehill, SurveySparrow, gan dîm O Ddrws i Ddrws. Yna bydd yn cael ei brosesu a'i storio'n ddiogel gan Wavehill. Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio gan Wavehill at ddibenion dadansoddi ac adrodd yn unig. Gellir defnyddio modelau dysgu iaith a meddalwedd 3ydd parti i'n helpu i brosesu data.

 

Int. Ref. 928-26

 

 

 

 
 
bottom of page