top of page
  • Writer's pictureWavehill

Panel Pen y Cymoedd

Sut rydyn ni'n dal ac yn prosesu'ch gwybodaeth

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd (PyC CIC) wedi comisiynu Wavehill i fonitro a gwerthuso effaith a chanlyniadau buddsoddiadau'r Gronfa Gymunedol, darpariaeth o'r Weledigaeth Gymunedol a nodir ym Mhrosbectws y Gronfa ac arfer gwaith ac effeithiolrwydd y CBC ei hun i gefnogi'r rhain.

Fel rhan o hyn, rydym yn sefydlu Panel i gasglu barn y gymuned. Mae cymryd rhan yn y Panel yn wirfoddol, ond fel diolch, bydd eich cartref yn derbyn taleb gwerth £10 ar gyfer Love2shop e-voucher bob tro y bydd aelod o'ch cartref yn cwblhau holiadur fel rhan o'r Panel a fydd yn cael ei weinyddu gan Wavehill. Yn dibynnu ar y pynciau sy'n cael eu trafod, efallai y gofynnir i chi lenwi hyd at 4 holiadur y flwyddyn a ddosberthir gan Wavehill ond bydd hyn yn amrywio ac efallai na fyddwch yn derbyn unrhyw holiadur mewn blwyddyn benodol. Dim ond os ydynt wedi cwblhau'r holiadur yn llawn gyda gwybodaeth gyfreithlon y bydd cyfranogwyr yn gymwys i dderbyn eu taleb. Bydd talebau’n cael eu hafnon trwy e-bost yn uniongyrchol at gyfranogwyr o fewn mis i ddyddiad cau’r arolwg.

Byddwn yn gofyn am eich enw, cod post a'ch cyfeiriad e-bost fel y gallwn gysylltu â chi, ynghyd â chwestiynau eraill ar bynciau fel oedran, rhyw, eich cartref, a statws gwaith.

Dim ond gyda'ch caniatâd penodol y byddwn yn defnyddio'ch manylion cyswllt a dim ond at y diben(ion) a nodwyd.

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain atoch chi. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn nodi unrhyw unigolion.

  • ​Ar ôl i chi gydsynio i fod ar ein cronfa ddata byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt am hyd at 3 blynedd o ddyddiad y caniatâd oni bai eich bod yn penderfynu tynnu'ch caniatâd yn ôl.

  • Os cytunwch eich bod yn hapus i gysylltu â chi ymhellach ar ôl llenwi arolwg, byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt am hyd at 3 blynedd o'r dyddiad hwn.

​​

  • Os ydych wedi cydsynio i ni gadw'ch data am y 3 blynedd lawn, ychydig cyn i'r cyfnod hwn ddod i ben byddwn yn cysylltu â chi i ofyn a ydych yn hapus inni gadw'ch data am 3 blynedd arall. Os na allwn gysylltu â chi ar yr adeg hon yna byddwn yn dileu eich data o'n systemau.

​​

  • Er mwyn nodi nodweddion cymunedol, byddwn yn cadw gafael ar eich Gwybodaeth Cydraddoldeb (gan gynnwys oedran, rhyw, rhyw ac ati) ochr yn ochr â'ch manylion cyswllt am yr un faint o amser.

​​

  • Bydd unrhyw ddata a ddarperir gennych fel rhan o'n harolygon yn cael ei gadw am chwe mis ac yna'n ddienw.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth, cysylltwch â Endaf Griffiths endaf.griffiths@wavehill.com

Gallwch hefyd siarad â Kate Breeze efo'r Gronfa Gymunedol – 01685 878785 / kate@penycymoeddcic.cymru neu cysylltwch efo'r swyddog diogelu data efo Llywodraeth Cymru ar DataProtectionOfficer@gov.wales.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • gael mynediad i'ch data personol a gedwir gan Wavehill

  • Ei gwneud yn ofynnol i Wavehill gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.

  • (mewn rhai amgylchiadau) cael eich data eu ‘ddileu’

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.gov.uk neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth Bellach

​​

1. Beth yw data personnol?

​​

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, nail ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd a gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol fel eich enw a'ch manylion cyswllt fel rhan o'r arolwg hwn.

2. Am ba hyd y cedwir data personol?

Bydd Wavehill yn cadw'ch data personol yn ystod cyfnod y contract ac rydyn yn rhagweld y bydd hyn yn para tan 2024. Fodd bynnag, bydd caniatâd i gadw'ch manylion cyswllt yn cael ei adolygu gyda chi bob 3 blynedd (oni bai eich bod wedi nodi fel arall) a bydd eich ymatebion i'r arolwg yn cael ei wneud yn ddienw o fewn 6 mis o'ch ymateb. Bydd Wavehill yn dileu pob cofnod o’u systemau 6 mis ar ôl i’r contract ddod i ben.

Bydd Wavehill yn darparu fersiwn anhysbys o'r set ddata i Pen y Cymoedd CIC. Mae hyn yn golygu na fydd y set ddata yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod chi. Yn benodol, bydd eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill yn cael eu dileu o'r set ddata hon.

3. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gasglwyd yn yr arolwg?

Bydd y panel hwn yn caniatáu i Ben Y Cymoedd ddeall barn pobl leol am yr hyn sydd wedi newid yn yr ardal leol ers cyflwyno'r gronfa ac i gasglu barn ar y blaenoriaethau parhaus ar gyfer y cronfeydd. Fel rhan o'r arolwg gofynnwn am eich caniatâd clir i brosesu'ch data at ddibenion yr ymchwil Panel hon yn unig.

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Pen Y Cymoedd CIC. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.

4. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r cyfweliad?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig am y rhesymau a nodir uchod. Dadansoddir y data i alluogi Pen Y Cymoedd CIC deall effaith ac effeithiolrwydd y cronfeydd a ddarparwyd a phenderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i gefnogi cymunedau ymhellach. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

5. Pwy sydd â mynediad at y data personol drwy’r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg ac i baratoi'r set ddata terfynol. Bydd Wavehill yn cadw'ch data personol yn ystod cyfnod y contract a rhagwelir bydd hyn yn para hyd 2024. Fodd bynnag, bydd caniatâd i gadw'ch manylion cyswllt yn cael ei adolygu gyda chi bob 3 blynedd (oni bai eich bod wedi nodi fel arall) a bydd eich ymatebion i'r arolwg yn ddienw o fewn 6 mis i'ch ymateb. Bydd Wavehill yn dileu pob cofnod o’u systemau 6 mis ar ôl i ddiwedd y contract ddod i ben.

Pe bai Pen Y Cymoedd CIC yn penderfynu cynnal y Panel hwn yn annibynnol ar Wavehill byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i drosglwyddo'r wybodaeth bersonol hon iddynt.

bottom of page