top of page
  • Ioan Teifi

Perchnogaeth Gweithwy (EO)r: ymchwil ar yr effeithiau a'r manteision

Mae ein hymchwil wedi dangos bod nifer o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yng Nghymru wedi cynyddu o ran nifer, daearyddiaeth ac ar draws sectorau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn amserol gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n ddiweddar i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru. Mae ein hymchwil yn helpu i ddarparu sylfaen dystiolaeth ar effeithiau a manteision y model perchnogaeth ar gyfer busnesau, gweithwyr a’r manteision cymdeithasol ehangach.


Wedi'i gomisiynu gan Cwmpas i ddeall effaith perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru, gwnaethom gyfweld â nifer o‘r busnesau sydd wedi dod yn eiddo i’w gweithwyr er mwyn deall yn well yr effeithiau arnyn nhw. Gwnaethom ystyried effaith trosglwyddo i fodel EO ar gynllunio olyniaeth a thwf busnes, cynhyrchiant, gwytnwch ac ymgysylltu â gweithwyr. Gwnaethom hefyd argymhellion ar sut i gefnogi y busnesau sydd eisoes wedi trosglwyddo perchnogaeth yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r model yn eu cynnig a'r ffordd orau o ymestyn hyn i fusnesau eraill sy'n edrych i drosglwyddo eu model busnes yn y dyfodol.


Mae'r broses EO yn wahanol o gwmni i gwmni ond i raddau helaeth mae'n galluogi mwy o dryloywder i weithwyr ynghylch sut maeeu cwmni'n caelei redegac yn ffurfiolimwy ofewnbwn gan weithwyr o ran cyfeiriad y cwmni. Nid oes undull sy'naddas ibawb a gall y modelEO fod ar wahanol ffurfiau, yndibynnu ar faint,diwylliant a sectory cwmni.


Mae ein prif canfyddiadau yn dangos:

  • Gan amlaf, roedd gan y busnesau EO yng Nghymru ethos blaengar cyn trosglwyddo perchnogaeth gyda thryloywder da a mewnbwn gan weithwyr. Serch hynny, roedd y busnesau hyn yn defnyddio mwy o strwythur i hwyluso mwy o ymgysylltiad â gweithwyr yn dilyn trosgwlyddo i EO, a oedd yn aml yn cael yr effaith o atgyfnerthu neu wella arferion oedd yn bodoli eisoes.

  • Adroddwyd yn eang bod trosglwyddo i EO wedi arwain at newid yn y diwylliant busnes, gan arwain at fwy o undod, lle mae pobl yn gweithio'n agosach gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin.

  • Cafodd effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw gweithwyr, mewn rhai achosion mae wedi rhoi pwynt o wahaniaeth iddynt ac o ganlyniad, eu helpu i ddenu'r dalent orau i'w busnes.

  • Mae trosglwyddo i EO wedi dangos cysylltiad â chefnogi twf cynaliadwy sydd wedi'i wreiddio'n lleol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i adnoddau ychwanegol trwy'r dolenni canlynol.

bottom of page