top of page
Writer's pictureWavehill

Staff Wavehill yn dweud ie i Bythefnos Waith 9 Diwrnod

Yn dilyn treial chwe mis i brofi sut y gellid gweithredu patrwm gwaith pythefnos 9 diwrnod, mae staff yWavehill wedi pleidleisio'n ysgubol i wneud hyn yn newid parhaol.


Sut mae Pythefnos Gwaith 9 Diwrnod yn gweithio?

Ym mis Gorffennaf 2022, cyflwynwyd cynllun peilot chwe mis i brofi newid arfaethedig mewn patrwm gweithio i staff Wavehill. Fe wnaeth y newid arfaethedig gyflwyno staff llawn amser o weithio 37.5 awr yr wythnos neu 75 awr bob pythefnos i weithio 72 awr bob pythefnos. Roedd hyn yn cynnig yr hyblygrwydd i staff llawn amser weithio un wythnos 40 awr ac un wythnos 32 awr, felly ni fydden nhw'n gweithio ar eu 10fed diwrnod. Dewisodd rhai staff gymryd un hanner diwrnod i ffwrdd yr wythnos, tra bod y mwyafrif wedi cymryd diwrnod llawn i ffwrdd unwaith bob pythefnos. Rhoddwyd dewis i staff rhan-amser rhwng codiad cyflog i weithio ychydig mwy o oriau neu ostyngiad mewn oriau am yr un tâl.


I ddarparu gwasanaeth parhaol i gleientiaid, mae'r staff hynny sy'n cymryd diwrnod llawn wedi cael eu rhannu mewn dau dîm gyda phobl yn cymryd eu 10fed diwrnod ar ddiwrnod penodol ar bob yr ail wythnos.


Sut rydyn ni'n gwybod ei fod yn gweithio i'n busnes?

Fel cwmni, rydym yn gwirio'n rheolaidd gyda'n staff trwy arolwg bodlonrwydd staff chwarterol a thrwy ein fforwm staff. Yma y daeth y syniad i archwilio gwahanol batrymau gwaith. Daeth y syniad o Pythefnos Gwaith 9 Diwrnod fel ymateb i’r bandemig Covid-19 ac i newid ehangach mewn arferion a normau yn y gweithle.


Yn yr un modd yr ydym yn gwneud gwaith ymgynghori i'n cleientiaid i lywio newidiadau pwysig y maent yn eu hystyried, cynhaliwyd gwerthusiad mewnol o'r cynnig hwn. Wrth edrych ar agweddau staff drwy weithdy sgwennu, arolygon, a chyfweliadau staff yn ogystal ag adolygu cyllid y cwmni a data bodlonrwydd cleientiaid.

8 green boxes showing the key themes explored as part of evaluation. Including: work/life balance, wellbeing at work, job satisfaction, productivity, flexi-working, seasonality, operations, financial impact
Archwilio themâu allweddol fel rhan o'r broses werthuso.

Mae Wavehill yn gwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr sy'n golygu bod yr holl staff wedi pleidleisio i dreialu'r pythefnos 9 diwrnod allan. Yn dilyn y gwerthusiad, gwahoddwyd staff i bleidleisio eto i benderfynu a ddylid dychwelyd yn ôl i batrwm gwaith 'arferol' 5 diwrnod neu barhau gyda'r pythefnos 9 diwrnod.


Pam fod hyn yn bwysig?

Mae rhaglen beilot 4 diwrnod diweddar yn y DU , gan gynnwys 61 o gwmnïau yn y DU, wedi dweud yn ddiweddar bod y cwmnïau oedd wedi cymryd rhan yn y treial wythnos 4 diwrnod dim wedi gweld gostyngiad yn refeniw’r cwmni. Dywedodd y peilot hefyd bod 71% o wweithwyr yn teimlo’n llai fel llosgi allan a'u bod y cwmniau yn gweld 65% gostyngiad mewn diwrnodau sâl. Yn dilyn diwedd y treial, wnaeth 92% o gwmnïau penderfynu parhau â'r polisi. Mae'r momentwm yn parhau i adeiladu ar gyfer newidiadau yn y gweithle. Fel y mae Megan Clark yn amlinellu yn ei blog blaenorol, mae llawer o ymchwil ar gael ar fanteision wythnos waith is, o ran cynhyrchiant a lles.


Yn Wavehill rydym yn cael ein gyrru'n fawr gan ein gwerthoedd ac yn gweithio'n barhaus ar ein gwerth cymdeithasol sy'n cynnig dod yn fwy moesegol, i wella'r ffordd y mae'n gweithredu ac i gefnogi ein staff fel y gallwn ddarparu'n well ar gyfer ein cleientiaid. Mae mabwysiadu pythefnos 9 diwrnod wedi mesur yn gwella lles a chynhyrchiant ein staff.


Rydym i gyd wedi ein cyffroi gan y cynlluniau y gallwn eu gwneud ar ein 10fed diwrnod , a phosibiliadau sydd wedi agor o ganlyniad i'r pythefnos 9 diwrnod.


Am fwy o wybodaeth am daith Wavehill i'r pythefnos 9 diwrnod cysylltwch â ni.

Commentaires


bottom of page