Sut rydyn ni'n dal ac yn prosesu'ch gwybodaeth
Penodwyd Wavehill gan Lantra i gynnal gwerthusiad blynyddol o'u prosiect Tyfu Cymru. Bydd adroddiad gwerthuso blynyddol yn cael ei gynhyrchu ar ddiwedd pob blwyddyn o'r rhaglen (2019-23) gyda'r adroddiadau cyntaf yn canolbwyntio mwy ar broses er mwyn helpu i lywio'r broses o gyflawni'r prosiect yn barhaus, ac adroddiadau olaf yn canolbwyntio mwy ar effaith y rhaglen a gwerthusiad economaidd er mwyn canfod y gwahaniaeth y mae'r prosiect wedi ei wneud.
Hoffem siarad â buddiolwyr y rhaglen a rhanddeiliaid eraill i gael eich barn ar reolaeth a darpariaeth y rhaglen, yn ogystal ag unrhyw ganlyniadau a allai fod wedi codi o'r gefnogaeth a dderbyniwyd neu unrhyw effaith mae'r gefnogaeth wedi cael ar y sector. Mae Lantra wedi darparu eich enw a'ch manylion cyswllt i ni er mwyn casglu eich adborth.
Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y defnyddiwyd y data rydych chi'n darparu. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r cyfweliad yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn nodi unrhyw unigolion heb eich cydsyniad yn ymlaen llaw.
Mae'n bwysig nodi hefyd nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Lantra nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu Prosiect Tyfu Cymru. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.
Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon mewn chwe mis ar ôl diwedd y gwerthusiad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â naill ai Ioan Teifi, sy'n arwain y gwerthusiad (ioan.teifi@wavehill.com) neu Sarah Gould (Sarah.Gould@lantra.co.uk)
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
Gael mynediad i'ch data personol a gedwir gan Lantra.
Ei gwneud yn ofynnol i Lantra gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data.
Mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.
(Mewn rhai amgylchiadau) cael eich data eu ‘ddileu’.
Cysylltwch â Sarah Gould os ydych chi'n dymuno gwneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.gov.uk neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Gwybodaeth Pellach
1. Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?
Mae Wavehill wedi cael eu comisiynu i gynnal gwerthusiad o Dyfu Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chyflwyno'r rhaglen er mwyn bwydo i mewn i'w datblygiad. Bydd adroddiad gwerthuso blynyddol yn cael ei gynhyrchu ar ddiwedd pob blwyddyn o'r rhaglen (2019-23) gyda'r adroddiadau cyntaf yn canolbwyntio mwy ar broses y rhaglen er mwyn helpu i lywio'r broses o gyflawni'r prosiect yn barhaus. Bydd yr adroddiadau olaf yn canolbwyntio mwy ar effaith y rhaglen a gwerthusiad economaidd er mwyn canfod y gwahaniaeth y mae'r prosiect hwn wedi'i chael. Bydd yr adroddiadau olaf hyn hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer parhau â'r prosiect ar ôl y cyfnod cyllido presennol.
2. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy'r arolwg?
Mae'r cyfweliad yn canolbwyntio ar gipio gwybodaeth gefndirol am eich busnes, y rhesymau yr oeddech eisiau dderbyn cefnogaeth o Dyfu Cymru, eich profiad o'r gefnogaeth ac unrhyw ganlyniadau.
3. Beth yw data personnol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, nail ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd a gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.
4. Am ba hyd y cedwir data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract a bydd y data yn cael ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract.
5. Beth yw'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd trwy'r arolwg?
Mae'r gwerthusiad o brosiect Tyfu Cymru yn galluogi Lantra i ddeall a yw'r rhaglen yn gweithio'n effeithiol. Felly fe'i defnyddir i gefnogi gweithgareddau'r rhaglen. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i:
Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r Rhaglen
Penderfynu a ddylai rhaglenni fel Tyfu Cymru barhau yn y dyfodol
Deall y dulliau gorau ar gyfer darparu cefnogaeth i fusnesau ac unigolion yn y sector garddwriaeth.
Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Lantra. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.
6. Beth yw pwrpas prosesu'ch atebion i'r arolwg?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Dadansoddir y data i alluogi Lantra i ddeall effaith ac effeithiolrwydd prosiect Tyfu Cymru. Bydd hyn yn helpu'r Lantra i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau ac i sefydlu a ddylai'r rhaglen hon barhau yn y dyfodol. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd trwy'r arolwg?
Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg.
Bydd Wavehill yn gwneud cofnod ysgrifenedig o'r drafodaeth yn ystod y cyfweliad. Dadansoddir y nodiadau hyn gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Lantra. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil heb gydsyniad ymlaen llaw ac ni fydd nodiadau'r cyfweliadau yn cael eu rhannu â Lantra nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol mewn chwe mis ar ôl diwedd y prosiect.
Commenti