top of page
Writer's pictureWavehill

Ymateb Cyllidwyr Cymru i Argyfwng Covid-19

Sut rydym yn dal ac yn prosesu eich gwybodaeth

Mewn ymateb i bandemig Covid-19, yn gynnar yn 2020 daeth cyllidwyr allweddol o’r trydydd sector yng Nghymru at ei gilydd mewn ffordd gydweithredol i gynnig amrywiaeth o gronfeydd i gefnogi'r sector. Y cronfeydd yw:

  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru - Cronfa Cydnerthedd y Trydydd Sector (Cam 1 a 2)

  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol

  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – Cronfa Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol

  • Sefydliad Cymunedol Cymru – Cronfa Cydnerthedd Coronafeirws Cymru

  • Sefydliad Cymunedol Cymru – Cronfa Ymateb ac Adfer Cymru

  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – Cronfa Gwobrau i Bawb (Covid-19 Penodol)

  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – Cronfa Pobl a Lleoedd (Covid-19 Penodol)

  • Sefydliad Moondance - Cronfa Ymateb Covid 19

Mae'r cyllidwyr allweddol – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Sefydliad Cymunedol Cymru ( CFW), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (NLCF) a Sefydliad Moondance (ITM) – wedi comisiynu Wavehill i werthuso effeithiolrwydd y dull cydweithredol hwn o ariannu. Defnyddir adborth i helpu i lywio'r sefydliadau ariannu mewn perthynas â dulliau ariannu cydweithredol posibl yng Nghymru yn y dyfodol.

Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y defnyddir y data a roddwch. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r cyfweliad yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i rhwun i adnabod chi. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn nodi unrhyw unigolion.

Mae’n bwysig i nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i CGGC, yr arianwyr allweddol eraill nac unrhyw sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu'r prosiect hwn. Werthusiad annibynnol yw hyn.

Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a ddarparwch a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu naill ai ag Eva Trier, sy'n arwain ygwerthusiad (eva.trier@wavehill.com) neu Alison Pritchard yn CGGC(apritchard@wcva.cymru).

Gallwch hefyd gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru trwy e-bostio DataProtectionOfficer@gov.cymru

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan CGGC

  • Ei gwneud yn ofynnol i CGGC gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • I (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.

  • I(mewn rhai amgylchiadau) ofyn i gael eich data eu ‘dileu’

Cysylltwch ag Alison Pritchard efo CGGC (apritchard@wcva.com) os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon am sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, trwy’r wefan www.ico.gov.uk , neu ysgrifennu at: Y Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF.

Gwybodaeth Bellach

1. Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?

Mae'r cyllidwyr allweddol – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Sefydliad Cymunedol Cymru ( CFW), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (NLCF) a Sefydliad Moondance (ITM) – wedi comisiynu Wavehill i werthuso effeithiolrwydd y dull cydweithredol hwn o ariannu. Defnyddir adborth i helpu i lywio'r sefydliadau ariannu mewn perthynas â dulliau ariannu cydweithredol posibl yng Nghymru yn y dyfodol.

2. Pa fath o wybodaeth a gesglir drwy'r ymchwil?

Fel rhan o'r ymchwil, byddem yn ceisio casglu profiadau a safbwyntiau sefydliadau sydd wedi defnyddio unrhyw un o'r arian a restrir uchod, a hefyd brofiadau sefydliadau sydd wedi ymgysylltu â'r cronfeydd neu agenda ariannu gydweithredol ehangach y trydydd sector, neu a allai fod ag ymwybyddiaeth ohonynt.

3. Beth yw data personol?

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.

4. Am ba hyd y cedwir data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir drwy'r arolwg?

Mae'r gwerthusiad o Ymateb Cyllidwyr Cymru i Argyfwng Covid-19 yn galluogi CGGC a'r cyllidwyr allweddol eraill i ddeall a yw eu cynnig cydweithredu a chymorth yn gweithio'n effeithiol. Fe'i defnyddir felly i lywio gweithgareddau cymorth a ddarperir gan CGGC a thasgau cyhoeddus y cyllidwyr allweddoleraill. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir:

  • Gwella'r ffordd y mae CGGC a'r cyllidwyr allweddol eraill yn cynnig cymorth mewn ymateb i argyfyngau yn y dyfodol.

  • Penderfynu ar y ffordd orau o gefnogi'r sector yn y dyfodol.

  • Helpu CGGC a'r cyllidwyr allweddol eraill i gydweithio yn y dyfodol.

6. Beth yw diben prosesu eich atebion i'r arolwg?

Defnyddir y data ar gyfer ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Defnyddir yr adborth i helpu i lywio'r sefydliadau ariannu mewn perthynas â dulliau ariannu cydweithredol posibl yng Nghymru yn y dyfodol. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata gan Wavehill nac unrhyw unigolyn neu sefydliad arall, ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

7. Pwy sydd â mynediad i'r data personol a gesglir drwy'r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg a bydd yn cipio enw, rôl swydd ac enw'r sefydliad yn ystod y cyfweliad hwn.

Bydd Wavehill yn gwneud cofnod ysgrifenedig o'r drafodaeth yn ystod y cyfweliad. Bydd y nodiadau hyn yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill i lunio adroddiad ar gyfer CGGC a'r cyllidwyr allweddol eraill. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau'n cael eu rhannu â CGGC a'r cyllidwyr allweddol nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd gan CGGC a'r cyllidwyr allweddol fynediad at ddata personol a gesglir drwy'r cyfweliadau.

Comentarios


bottom of page