top of page
  • Wavehill

Dewch i ymuno â'n tîm!

Yma yn Wavehill rydym yn helpu ein cleientiaid i wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar ymchwil gadarn, tystiolaeth ddibynadwy, a rhesymeg glir. Rydym yn gwmni uchelgeisiol sy'n tyfu ac yn eiddo i'r gweithwyr ac yn cael ein harwain gan werthoedd cymdeithasol, cymunedol ac amgylcheddol cryf, gan ein hysgogi i ddatblygu amgylchedd cynhwysol a chefnogol i'n holl gydweithwyr. 

 

Mae’n gyfnod cyffrous yn nhwf Wavehill. Rydym yn tyfu ein portffolio o waith a chleientiaid yn gynaliadwy ac ar hyn o bryd mae gennym gyfle gwych i Ymgynghorydd ac Uwch Ymgynghorydd ymuno â'n tîm, gyda ffocws penodol ar gefnogi ein marchnad yng Nghymru


Y Rolau

Mae ymgynghorwyr yn ymwneud ag ystod o dasgau ymchwil a gwerthuso gan gynnwys rheoli prosiectau, dylunio holiaduron, gwaith maes (ansoddol a meintiol), dadansoddi data ac adrodd.

 

Mae Uwch Ymgynghorwyr yn gyfrifol am ennill, dylunio, rheoli a chyflwyno prosiectau ymchwil a gwerthuso. Maent yn chwarae rhan arweiniol wrth gydweithio â chleientiaid, cymdeithion, a phartneriaid i gyd-greu allbynnau a darparu mewnwelediadau ar sail tystiolaeth.

 

Bydd y ddwy rôl yn canolbwyntio'n bennaf ar waith yn ein marchnadoedd Cymreig. Bydd yr ymgeisydd(ymgeiswyr) wedi'u lleoli yn ein swyddfa yn Aberaeron am o leiaf 40% o'u hwythnos waith.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn ewch i'n gwefan a lawr lwythwch becyn recriwtio sy'n cynnwys disgrifiadau swydd fanwl ar gyfer pob rôl.

 

Yr hyn rydym yn ei Gynnig

  • Ymgynghorydd: £26,000 i £34,000.

  • Uwch Ymgynghorydd: £34,000 i £42,000.

Ar gyfer y ddwy rôl, gall y cyflog sydd ar gael amrywio yn dibynnu ar brofiad ond bydd o fewn y bandiau cyflog a amlinellwyd.

  • Bonws cwmni o hyd at 15% o'r cyflog sylfaenol, yn seiliedig ar elw'r cwmni – fel cwmni y mae'r gweithwyr yn berchen arno, dyfernir £3,600 cyntaf y bonws hwn yn ddi-dreth.

  • 5% o gyfraniad pensiwn y cyflogwr, wedi'i gyfateb gan weithwyr.

  • Ymrwymiad i fuddsoddi'n barhaus yn eich dysgu a'ch datblygiad.

  • Gweithio swyddfa, hybrid ac o bell ar gael.

  • Gweithio hyblyg gan gynnwys model gweithio pythefnos 9 diwrnod ar gyfer staff llawn amser.

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu ar ôl dwy flynedd) ynghyd â gwyliau banc.


Rydym yn hyblyg o ran a yw'r swydd(i) yn llawn amser neu'n rhan amser (o leiaf 0.6 Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE)). Rydym yn croesawu ac hybu ceisiadau o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.


Ymunwch â'n tîm

I gael rhagor o fanylion am y swyddi hyn ewch i'n  gwefan . I wneud cais, llenwch y ffurflen gais a lan lwythwch eich CV yma .


Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Ebrill 2024.

bottom of page