Sut mae Wavehill yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrthddylunio arolygon.
Ymchwil a data o ansawdd uchel yw conglfaen ein gwaith. Trwy ein dull cydweithredol, trwy arfer gorau'r diwydiant ac achrediadau, rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella ein prosesau a datblygu methodolegau i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n cleientiaid. Un ffordd wnaethom sicrhau hyn oedd canolbwyntio ar ddulliau ymchwil fwy cymhwysol.
Pam mae ymchwil gynhwysol yn bwysig?
Rydym yn canolbwyntio'n gynyddol ar ymgorffori arferion ymchwil cynhwysol ar draws gwahanol agweddau o’n gwaith. Mae hyn yn deillio'n rhannol o ffocws Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewnol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant ac amgylchedd gwaith cynwysedig ar gyfer ein holl gydweithwyr. Cydnabyddiaeth nad yw pob anabledd yn cael ei weld, felly mae defnyddio dull mwy cynhwysol o'n cyfathrebu a'n hallbynnau yn galluogi ein gwaith i fod ar gael yn ehangach. Mae hefyd yn dod o'n gwaith gyda'n cleientiaid. Gan gydnabod efallai na fydd y sefydliadau, y rhanddeiliaid a'r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw fel rhan o'n hymchwil a'n gwerthusiadau fel arall yn cael eu cynrychioli'n ddigonol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i gael gwell cynrychiolaeth achos mae ein hymchwil yn effeithio ar ddylunio prosiectau a rhaglenni yn y dyfodol, pennu dyraniadau cyllid ac effeithio ar ddatblygu polisi.
Felly, rydym yn adolygu ac yn chwilio am arfer gorau yn barhaus er mwyn sicrhau, lle bo'n briodol, y gallwn gymryd ymagwedd gynhwysol at ddylunio i wella ein methodolegau ymchwil. Mae hyn yn sicrhau canlyniadau gwell o ran y data a gasglwyd, sy'n arwain at ddadansoddi mwy craff achos rydym yn cael gwell gynrychiolaeth o safbwyntiau gwahanol.
Arolygon ac ymchwil sylfaenol; Beth yw'r rhwystrau?
Yn Lloegr, amcangyfrifir bod gan tua 1 o bob 6 o bobl efo sgiliau llythrennedd gwael, tra bod canllawiau'r llywodraeth yn argymell y dylid anelu pob cyfathrebiad at oedran darllen cyfartalog plant 9 mlwydd oed. Ac eto mae'r iaith a ddefnyddir mewn llawer o offer arolwg yn aml yn fwy na hyn. Felly, mae'n bwysig deall nid yn unig beth yw disgwyliadau ein cleientiaid o ganlyniad prosiect, ond hefyd anghenion y bobl yr ydym yn eu harolygu . Yn Wavehill mae'r rhain yn cynnwys ystyriaethau ynghylch iaith, fformat a hygyrchedd.
Pwysigrwydd iaith.
Rhan allweddol o'n proses dylunio ymchwil yw sicrhau ein bod yn ymgysylltu ar y lefel gywir ar gyfer y cyfwelydd. Mewn rhai achosion, mae cwestiynau arolwg yn defnyddio iaith gymhleth a allai fod yn anodd deall efo grwpiau sy'n defnyddio Saesneg fel ail iaith neu bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs) heb sôn am ateb.
Mae ein tîm ymchwil yn addasu ac yn newid yr iaith a ddefnyddir, yn dibynnu ar y garfan sy’n cymryd rhan. Buom yn gweithio er enghraifft, gyda grŵp o ffoaduriaid ac ymfudwyr i gasglu eu barn am ddarparwr gwasanaeth, lle mewn sawl achos Saesneg oedd eu hail neu drydedd iaith. Gwnaethom nifer o addasiadau gan gynnwys defnyddio cyfieithwyr o'u cymunedau lleol i feithrin ymddiriedaeth, a oedd yn ei dro yn cefnogi proses yr arolwg yn well. Fe wnaethom hefyd ddatblygu hysbysiad preifatrwydd a dogfennau hawdd eu darllen i gefnogi nifer o weithdai a gynhaliwyd gennym. Fel arfer defnyddwyd dogfennau hawdd eu darllen efo poblâ nam ar eu golwg. Mae dogfennau hawdd eu darllen yn defnyddio brawddegau byr a delweddau sy’n syml i esbonio'r cynnwys. Yn yr achos hwn mae hefyd wedi helpu ein hwylusydd i ddatgelu mewnwelediadau allweddol i'r cleient.
Dewis y fformat cywir i sicrhau hygyrchedd.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cael y data gorau posibl o'n harolygon mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r fformat y mae arolwg yn ei gymryd. Nid oes gan rai carfannau rydyn ni'n gweithio gyda nhw'r sgiliau i ddefnyddio offer ar-lein i rannu eu barn. Efallai na fydd gan eraill fynediad at offer TG, data na band eang. Felly mae angen gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi'r unigolion hyn. Gall eraill wynebu rhwystrau corfforol neu brofi iechyd meddwl gwael a allai fel arall eu hatal rhag rhannu eu barn.
Mae pob dull cyflwyno yn gofyn am ddull pwrpasol. Mewn prosiect diweddar er enghraifft, gwelsom mai cyfweliadau fideo Teams oedd y dull mwyaf effeithiol gyda phobl sydd ag Awtistiaeth gan fod rhai o'r rhai a gafodd eu cyfweld yn bryderus am adael y tŷ ond roedd angen iddynt weld wyneb y person oedd yn eu cyfweld.
Gwelliannau parhaus; dull Wavehill
Mae ein Tîm Ymchwil mewnol yn cwblhau dros 1,000 o gyfweliadau bob blwyddyn ac yn siarad ag ystod eang o bobl o wahanol sectorau a diwydiannau, o academyddion a busnesau i grwpiau, nodweddion a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Fel y nodwyd, rydym yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau gan fod pob carfan yn gofyn am ddull gwahanol wrth gasglu eu barn. Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o dactegau o gyfweliadau stryd, cyfweliadau wyneb yn wyneb, cyfweliadau ffôn, cyfweliadau Teams neu arolygon ar-lein, yn ogystal â gweithdai a sesiynau grŵp. Nod y dulliau hyn yw cael yr ymatebion gorau gan y gwahanol garfannau o bobl yr ydym yn eu cyfweld neu'n eu harolygu.
Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o godi ansawdd yr ymatebion o arolygon a gynhaliwyd. Mewn sesiwn rhannu gwybodaeth fewnol ddiweddar gyda'r cwmni cyfan, tynnodd y Tîm Ymchwil sylw at broblemau cyffredin gyda rhai cwestiynau neu’r iaith aoedd yn cael eu defnyddio, a sut y gall hyn effeithio ar gael data da. Mae'r math hwn o ddolen adborth barhaus yn sicrhau ein bod yn cynnal safonau a bod gennym ddull gweithredu cyson. Wrth gynllunio arolwg rydym felly'n ystyried ystod o ffactorau sy'n briodol ar gyfer y grŵp yr ydym yn ei gyfweld a beth yw gofynion y prosiect. Gall hyn gynnwys:
adolygiad mewnol i sgrinio a gwerthuso arolygon cyn cytuno arnynt gyda chleient. Mae hyn yn edrych ar yr iaith a ddefnyddir ac a yw'n addas i'r bobl y byddwn yn eu cyfweld. Mae'n ystyried a yw'r iaith a ddefnyddir yn ddi-jargon, yn briodol, yn ddealladwy ac yn hawdd i bobl gymryd rhan.
ystyriaethau ynghylch fformat a dull cyflawni'r garfan darged. Mae hyn yn cynnwys ystyried y ffordd orau o gyflawni dealltwriaeth ansoddol trwy ddylunio arolygon ac allbynnau meintiol gan ystyried dulliau ar-lein priodol.
Opsiynau i chwarae rôl arolwg cyn iddo fynd yn fyw. Mae hyn yn caniatáu i'r tîm nodi unrhyw gwestiynau problemus ac atebion posibl. Mae hefyd yn galluogi cynllunio gwell sy'n ystyried, er enghraifft, amseriadau arolwg a hyd, iaith, a materion yn ymwneud â hygyrchedd.
Mae cymryd yr amser i sicrhau bod ein prosesau'n fwy cynhwysol wedi arwain at ymatebion o ansawdd gwell. Mae hyn yn gwneud dadansoddiad mwy effeithlon unwaith y bydd y data wedi'i gasglu. Mae hefyd yn arwain at adroddiadau mwy craff ar gyfer ein cleient. Mae gan y rhai yr ydym yn cyfweld llais cryfach yn y broses werthuso. Mae hyn yn rhoi golwg fwy cywir i gleientiaid o effaith eu prosiect, rhaglen, cronfa neu fenter bolisi.
Nid yw'r broses hon o reidrwydd yn gofyn am newidiadau mawr. Drwy gymryd ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rydym wedi canfod y gall gwneud addasiadau bach yn ein gwaith sy'n ymwybodol o'r defnyddiwr terfynol gael effaith enfawr. Rydym yn edrych yn barhaus i wella ein dull gweithredu ac rydym yn dysgu ac addasu yn barhaus wrth i ni weithio gyda'n cleientiaid, rhanddeiliaid a chymunedau gwahanol.
コメント