top of page

Galwad ar gyfer ymchwilwyr llawrydd yng Nghymru

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • Apr 28
  • 1 min read

Wavehill yw un o brif gwmnïau ymchwil economaidd a chymdeithasol Cymru, yn arwain gwaith ymchwil mewn ystod eang o feysydd, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Fel sefydliad, rydym yn rhoi gwerth mawr ar gydweithio, ac mae gennym ddiddordeb parhaus mewn gweithio gydag ymchwilwyr a phartneriaid sy’n gallu ategu a chryfhau ein gwaith.


Wrth i’n portffolio barhau i ddatblygu, rydym yn awyddus i ehangu ein rhwydwaith o ymchwilwyr llawrydd, yn enwedig unigolion sydd â’r gallu i gyfrannu at ddarparu gwaith ymchwil dwyieithog o ansawdd uchel.


Os oes gennych brofiad o ddylunio a chynnal ymchwil, ynghyd agysgrifennu adroddiadau gwerthuso drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod gennych ddiddordeb mewn cydweithio, byddem yn falch iawn o glywed gennych.


Mae croeso i chi anfon neges atom drwy LinkedIn neu gysylltu’n uniongyrchol i drafod cyfleoedd cydweithio posibl yn y dyfodol.


Cysylltwch â recruitment@wavehill.com os oes gennych unrhyw gwestiynau.


Wavehill Logo

 
 
bottom of page