top of page
  • Writer's pictureWavehill

Get Out Get Active (GOGA): Gwerthusiad cydweithredol ar waith

Photo credit: GOGA Sunderland/ Foundation of Light

Cyd-destun

Mae Get Out Get Active (GOGA) yn dod ti gilydd bobl efo anabledd a phobl heb anabledd yn ein cymunedau ac yn eu cefnogi i fod yn actif gyda'i gilydd.


Ers 2016, mae GOGA wedi cyrraedd dros 160,000 o bobl efo anabledd a phobl heb anabledd trwy dros 3,300 o wahanol weithgareddau ac ymyriadau, gan hyfforddi dros 3,500 o staff a gwirfoddolwyr i gefnogi darpariaeth wirioneddol gynhwysol. Gyda bron i 36,000 o gyfranogwyr cofrestredig, mae'r rhaglen wedi ceisio a phrofi gwahanol weithgareddau ar draws 39 o ardaloedd ledled y DU. Y bwriad oedd helpu i leihau anweithgarwch corfforol ymhlith holl fuddiolwyr y rhaglen, cysylltu pobl â'u cymuned yn well trwy wasanaethau lleol, a mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol. Roedd y rhaglen yn ymgorffori arfer cynhwysol, gan annog y rhai lleiaf actif yn y gymuned i ddod yn fwy actif.


Dros 7 mlynedd o’i weithrediad, mae'r rhaglen GOGA wedi derbyn £9.3m gan sefydliadau fel Spirit of 2012 (lle roedd yn cynrychioli ei fuddsoddiad unigol mwyaf), Sport England, a Sefydliad Marathon Llundain. O'r dechrau a thrwy gydol y rhaglen hon, darparodd Wavehill werthusiad y prosiect.


Dull

Gan weithio'n barhaus mewn cydweithrediad agos â holl bartneriaid prosiect a chyllidwyr ledled y DU, datblygodd Wavehill fframwaith gwerthuso cynhwysfawr ac wedi cyflawni pob agwedd o'r fethodoleg a ddeilliodd o hynny. Roedd ein dull gweithredu yn seiliedig ar bartneriaethau, meithrin perthynas, a chyd-gynhyrchu i sicrhau dull hyblyg a chynhwysol. Galluogodd hyn ddysgu sy'n dod i'r amlwg i helpu i lunio ymarfer a chynllunio prosiectau. Pan ddigwyddodd heriau ynghylch cyflawni, galluogodd hyn newidiadau tra bod y prosiect dal yn gweithredu   , gan arwain at ganlyniadau gwell i fuddiolwyr, partneriaid prosiect a chyllidwyr.


Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda thîm y prosiect fel partner dysgu i adolygu canfyddiadau a thrafod ac archwilio fformatau amgen i ledaenu canlyniadau prosiectau. Fe wnaethom ni gyd-greu ystod o adroddiadau effaith i gefnogi darparu rhaglenni, ceisiadau cyllido, a datblygu partneriaethau. Roedd ffocws cryf ar sicrhau bod yr allbynnau hyn yn fwy gweledol a hygyrch a oedd yn annog mwy o ymgysylltiad ar draws ystod ehangach o randdeiliaid.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Wavehill ers dechrau GOGA yn 2016. Mae'r berthynas hon wedi ein helpu i wreiddio prosesau gwerthuso o ddechrau'r rhaglen a dangos gwir effaith ein gwaith ar draws y DU. Mae GOGA yn fwy na rhaglen, mae'n ddull sy'n ein dysgu ni a sefydliadau i addasu, gwrando a dysgu.
Helen Derby, Rhaglenni Arweiniol Strategol, Cynghrair Gweithgareddau

Effaith

Yn ystod y prosiect hwn mae ein canfyddiadau wedi dangos yr effaith lwyddiannus y mae GOGA wedi'i chael o fewn cymunedau lleol ac yn genedlaethol. Mae wedi helpu i lunio datblygiad 'Dull GOGA' fel cysyniad y gall pawb sy'n gweithio gyda'r lleiaf actif ei gymhwyso i ddarparu darpariaeth gynhwysol. Mae GOGA 2020 - 2023, wedi profi 'Dull GOGA' gyda gwahanol grwpiau poblogaeth. Mae ein canfyddiadau gwerthuso wedi helpu i nodi elfennau allweddol dull sy'n canolbwyntio ar gyfranogwyr sy'n ystyried profiadau'r gorffennol, yn mynd i'r afael â rhwystrau, yn cyd-fynd â dewisiadau, ac yn darparu cefnogaeth barhaus i annog cyfranogiad parhaus mewn gweithgareddau corfforol. Mae hyn wedi cefnogi'n barhaus, rhaglen sy'n cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn gynaliadwy, yn gwella lles, yn mynd i'r afael ag unigrwydd, ac yn cynyddu cyfranogiad cymunedol. Mae'n cynnal canfyddiadau cadarnhaol ar y cyfan o bobl anabl. Ar ben hynny, mae ein gwaith wedi cyfrifo bod GOGA 2 yn dangos gwerth da am arian gan gynhyrchu £4.60 o fudd o bob  £1 o fuddsoddiad yn y rhaglen.


Adnoddau ychwanegol


Rhai astudiaethau achos sy'n gweithio gyda gwahanol grwpiau anweithgar



Comments


bottom of page