top of page
  • Writer's pictureStuart Merali-Younger

Gwerthusiad mewn Cyfnod Newydd o Gyllid Datblygu Economaidd

Daeth Cyllideb yr Hydref ym mis Hydref â chwistrelliad o gyllid newydd i ddatblygiad economaidd. Roedd hyn yn cynnwys rhandaliad cyntaf y Gronfa Ffyniant Bro oedd yn werth cyfanswm o £1.7bn. Yn ogystal, cyhoeddwyd buddsoddiad o £220m yng Nghronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Ystyrir hyn yn rhagarweiniad blwyddyn i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) hir ddisgwyliedig.

Y Gronfa Ffyniant Bro

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn darparu cyllid cyfalaf sy’n galluogi gwariant dros gyfnod o sawl blwyddyn, ac mae’n canolbwyntio ar drafnidiaeth, adfywio trefol a seilwaith diwylliannol. Mae’n cwmpasu meysydd buddsoddi tebyg i’r Gronfa Twf Lleol a’i rhagflaenodd. Yn debyg i’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a nodir isod, mae’n cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol a chyfunol.

Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Mae’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) yn werth £220m. Mae’n gyfystyr â thua 90% o’r cyllid refeniw a fydd yn cefnogi’r rhan fwyaf o’r ymyriadau a ariennir ar hyn o bryd gan raglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae’r cronfeydd hyn bellach yn cael eu dirwyn i ben erbyn 2023. Mae’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn cynnwys buddsoddiad mewn:

· pobl – gan ganolbwyntio ar sgiliau, hyfforddiant a chymorth cyflogadwyedd.

· busnesau – gan gynnwys cymorth arloesi, gwell effeithlonrwydd ynni, a chymorth busnes cyffredinol.

· lleoedd – buddsoddi mewn seilwaith ynni, dulliau adfywio a arweinir gan ddiwylliant, buddsoddiadau band eang, a gwelliannau i dir y cyhoedd.


Bydd y Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn cefnogi prosiectau hyd at fis Mehefin 2022, ac erbyn hynny disgwylir y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cymryd drosodd buddsoddiad yn y meysydd ymyrraeth hyn. Bydd angen i ddarpar brosiectau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwn gael eu lansio a’u cyflawni’n gyflym, felly byddant yn elwa o ddefnyddio strwythurau cryf sy’n bodoli eisoes, a methodolegau profedig.

Gyda chyhoeddiadau ariannu sylweddol, a negeseuon parhaus gan y Llywodraeth ynghylch ffyniant bro a datganoli i ardaloedd lleol, mae hwn yn gyfnod pwysig i Gynghorau ac Awdurdodau Cyfunol fabwysiadu dull mwy strategol o fonitro a gwerthuso prosiectau a rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ddatblygu economaidd. Gall gwaith gwerthuso a gomisiynir yn dda fod yn hanfodol am nifer o resymau.

Mae sylfaen dystiolaeth leol yn galluogi darpariaethau a chanlyniadau lleol cryfach

Os yw ardaloedd lleol i gael rheolaeth dros fwy o adnoddau ar gyfer datblygiad economaidd, mae’n bwysig eu bod yn adeiladu sylfaen dystiolaeth leol gref sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio yn yr ardal honno. Mae hyn yn golygu defnyddio dulliau gwerthuso cadarn i ddadansoddi a dysgu gwersi am effeithiolrwydd cyflwyno rhaglenni, yr effeithiau a gynhyrchwyd, a pha mor gost-effeithiol oedd y rhaglenni hynny. Felly, mae tystiolaeth leol yn hollbwysig. Er y gall fod yn ddefnyddiol tynnu ysbrydoliaeth o gynlluniau mewn mannau eraill gwyddom, er enghraifft, y bydd y dirwedd ar gyfer rhaglenni datblygu economaidd sy’n gweithio o amgylch swyddfa Wavehill yng ngorllewin Cymru yn wahanol iawn i’r tirlun datblygu economaidd o amgylch ein swyddfeydd yn Llundain, Bryste, neu Newcastle. Mae deall yr hyn sy’n gweithio’n lleol yn hollbwysig.

Paratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae’n amlwg fod y Gronfa Adfywio Cymunedol wedi’i sefydlu fel ymarferiad cyn lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022, yn hytrach na bod yn gronfa o £220m. Disgwylir i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyrraedd buddsoddiad blynyddol o £1.5bn. Mae manylion y gronfa hon yn dal i ddatblygu, ond rydym yn rhagweld y bydd rhywfaint o gystadleuaeth rhwng ardaloedd ar gyfer denu’r cyllid hwn, fel sydd wedi digwydd gyda chronfeydd datblygu economaidd eraill a lansiwyd gan y Llywodraeth hon. Felly, bydd yn gynyddol bwysig cael sylfaen dystiolaeth gadarn i ddangos yr effeithiau y gall eich prosiectau arfaethedig eu cael, a’ch gallu i gyflawni’n effeithiol. Bydd tystiolaeth werthuso gadarn yn hanfodol i ategu hygrededd eich ceisiadau.

Mae’r Llywodraeth wedi argymell yn gryf bwysigrwydd gwerthuso o ansawdd uchel, ac maent eisoes wedi cyhoeddi canllawiau monitro a gwerthuso ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol. Disgwylir i’r canllawiau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro ddilyn yn fuan a disgwylir iddynt adeiladu ar y dulliau monitro a gwerthuso presennol a ddatblygwyd ar gyfer y Gronfa Trefi. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM a’r Llyfr Magenta yn darparu canllawiau cadarn ar arfarnu a gwerthuso polisïau a rhaglenni ar bob lefel o Lywodraeth, ac mae’n bwysig fod y gwaith gwerthuso a gomisiynir yn dilyn y canllawiau craidd hyn yn agos.

Er yr holl rwystredigaethau ynghylch biwrocratiaeth a brofwyd gan lawer (neu sy’n dal i gael eu profi nawr), wrth ddarparu rhaglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, roedd y ffrydiau ariannu hyn yn meithrin dull cryf o fonitro cyfres o ddangosyddion cyson ar draws prosiectau. Roeddent hefyd yn gosod diwylliant o werthuso pob prosiect, er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. Yr anfantais oedd fod y gwerthusiadau hynny’n cael eu cynnal yn rhy aml fel ymarfer ticio blychau, ac nad oedd gwersi bob amser yn cael eu rhannu na’u defnyddio i wella polisi yn y dyfodol. Mae awdurdodau a chynghorau cyfunol sy’n arwain ar y Gronfa Adfywio Cymunedol, y Gronfa Ffyniant Bro, a chynlluniau eraill o’r fath, bellach yn cael cyfle i fabwysiadu dull mwy strategol, ac i adeiladu eu sylfaen dystiolaeth gan fod yn llwyr ymwybodol o beth sy’n gweithio. Drwy ddefnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael i adeiladu naratif cryf, gall awdurdodau lleol a chyfunol gyflwyno eu hachos yn fwy effeithiol er mwyn helpu i sicrhau eu cyfran o fuddsoddiad yn y cyfnod newydd hwn o gyllid datblygiad economaidd.

Mae Wavehill yn ymgynghoriaeth ymchwil a gwerthuso arbenigol - rydym yn gweithio’n rheolaidd gydag awdurdodau lleol a chyfunol, partneriaethau menter lleol, prifysgolion a phartneriaid eraill ynghylch gwerthuso cynlluniau datblygiad economaidd, gan gynnwys nifer o brosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Rydym yn teimlo’n angerddol o blaid yr angen am werthusiad clir a chadarn o brosiectau, a’r rôl y gall hynny ei chwarae wrth feithrin dealltwriaeth leol ddyfnach o’r hyn sy’n gweithio er mwyn cefnogi datblygiad economaidd a ffyniant bro.

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith yn y maes hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â


bottom of page