top of page
Writer's pictureWavehill

Gwerthusiad o Archif Ddarlledu Cymru: cyfweliadau gyda staff y prosiect a rhanddeiliaid

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad annibynnol o Archif Ddarlledu Cymru.

 

Mae Archif Ddarlledu Cymru yn dod â deunydd darlledu helaeth ynghyd o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C, gan ei wneud mor hygyrch â phosibl i bawb. Fel rhan o'r gwerthusiad canol tymor rydym yn gofyn i staff a rhanddeiliaid y prosiect am adborth i'n helpu i ddeall sut mae'r prosiect wedi'i gyflawni, yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn ac unrhyw welliannau y gellir eu gwneud. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol.

 

Fel aelod presennol/cyn-aelod o staff/rhanddeiliaid y prosiect, darparwyd eich manylion cyswllt gan dîm y prosiect. Mae cymryd rhan yn y cyfweliad yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.

 

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r cyfweliad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i rywun i  adnabod chi neu eich sefydliad. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer ddibenion ymchwil  yn unig. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn enwi unrhyw unigolion.

 

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn 6 mis i ddiwedd y prosiect (disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2026).  Mae eich atebion i'r cyfweliad wedi'u cysylltu'n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i'r cysylltiad hwn beidio â digwydd. Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur neu'r gwerthusiad yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Dr Nikki Vousden yn Wavehill (nikola.vousden@wavehill.com | 01545 277901) neu Einion Gruffudd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (einion.gruffudd@llgc.org.uk).

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • I (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.

 

Cysylltwch ag Einion Gruffudd os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Mwy o wybodaeth


Beth yw Archif Ddarlledu Cymru?

Mae Archif Ddarlledu Cymru yn cael ei darparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac fe'i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae'n dwyn ynghyd ddeunydd darlledu helaeth o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C, gan ei wneud mor hygyrch â phosibl i bawb.

 

Mae Wavehill wedi'i gomisiynu i gyflwyno cynllun gwerthuso, adolygiad canol tymor ac adroddiad terfynol, i gefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru i asesu effaith a manteision sefydlu'r archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y DU, ac i sicrhau ei bod yn hygyrch i ystod eang o ddefnyddwyr a darparu ar gyfer eu hanghenion. Mae hyn yn cynnwys datblygu offer ymchwil i ddarparu dealltwriaeth o bwy sy'n ymgysylltu (boed yn gynulleidfa bresennol y sefydliad neu gynulleidfaoedd newydd, yn enwedig y rhai yr ystyrir eu bod mewn grwpiau anoddach eu cyrraedd fel pobl ifanc neu grwpiau lleiafrifoedd ethnig), sut maent yn ymgysylltu, pa ddeunydd y maent yn ymgysylltu ag ef a pha mor aml,  yn ogystal â chasglu eu hadborth ar y profiad. Fel rhan o'n gwerthusiad canol tymor, rydym yn gofyn i staff a rhanddeiliaid y prosiect roi adborth ar ddarparu prosiectau a'r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn.

 

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r cyfweliadau?

Mae'r cyfweliad yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Rhesymeg y prosiect

  • Darpariaeth y prosiect

  • Amcanion y prosiect

 

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.


Mae'r cyfweliad yn casglu rhywfaint o ddata personol ar gyfer yr holl ymatebwyr megis: enw, cyfenw, teitl swydd, sefydliad.

 

Am ba hyd y mae Wavehill yn cadw data personol ?

Tan 6 mis ar ôl diwedd y prosiect (disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2026).

 

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd? 

Y sail gyfreithiol yw ein tasg cyhoeddus.

 

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

 

Fel rhan o'n gwerthusiad canol tymor, rydym yn gofyn i staff a rhanddeiliaid y prosiect roi adborth ar ddarparu prosiectau a'r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall beth sydd wedi mynd yn dda a pha heriau sydd wedi bod hyd yn hyn, ac yn ein galluogi i ddarparu argymhellion ar gyfer gwella.

 

Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r cyfweliad?

Bydd gan Wavehill fynediad at eich data personol. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion y gwerthusiad yn unig. Ni fydd eich sylwadau yn cael eu priodoli i chi nac yn cael eu hadrodd / eu cyhoeddi'n gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at rywun  eich adnabod. Gellir defnyddio modelau dysgu iaith a meddalwedd trydydd parti i'n helpu i brosesu data dienw.


Int. Reference 687-22



Related Posts

Commentaires


bottom of page