top of page
  • Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas

Sut rydym yn dal a phrosesu eich gwybodaeth

Mae Wavehill wedi'u penodi gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW) i gyflawni gwerthusiad annibynnol o Brosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas ym Mhenparcau, Aberystwyth.


Rydym yn gofyn i bobl sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar y prosiect lenwi holiadur er mwyn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o effaith y prosiect ar unigolion a'r gymuned.


Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y caiff y data a roddwch ei ddefnyddio. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwyd fel rhan o'r gwerthusiad ei chadw'n gyfrinachol. Ni chaiff eich atebion i'r arolwg eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain atoch chi gael eich adnabod. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad ar sail y wybodaeth, ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.


Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, RCAHMW, na dim o'r sefydliadau sy'n ymwneud â darparu neu ariannu'r prosiect hwn. Mae hwn yn werthusiad annibynnol.


Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a roddwch a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon o fewn chwe mis o ddiwedd y gwerthusiad.


Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gwerthusiad, gallwch gysylltu â Nikki Vousden, sy'n arwain y gwerthusiad (nikki.vousden@wavehill.com), neu Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed (k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk).


O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych hawl i:

  • Gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed neu RCAHMW

  • Gofyn i Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed neu RCAHMW gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (yn rhai amgylchiadau penodol).

  • Gofyn i gael eich data ei 'dileu' (mewn rhai amgylchiadau penodol).

Cysylltwch â Ken Murphy os ydych am wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn.


Gwybodaeth Bellach


1. Pam mae'r ymchwil hon yn digwydd?

Mae Wavehill wedi cael ei gomisiynu gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a RCAHMW i gynnal gwerthusiad o'u Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas . Nod y prosiect yw arddangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd y gymuned yn gofyn y cwestiynau, gan greu gwybodaeth newydd yn y broses o'u hateb. Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a RCAHMW efo diddordeb yn effaith y prosiect ar unigolion a'r gymuned.


2. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar farn am sut mae Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas wedi'i gyflwyno ac unrhyw ganlyniadau a welir o ganlyniad i'r prosiect.


3. Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at ganfod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth eang ar gael, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion penodol am y person hwnnw.


4. Pa mor hir y caiff data personol ei gadw?

Bydd Wavehill yn dal data personol yn ystod cyfnod y contract, ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract.


5. Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd drwy'r arolwg?

Mae gwerthuso Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas yn galluogi Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a RCAHMW i ddeall a oedd y prosiect wedi bod yn effeithiol. Gall hynny gael ei ddefnyddio i roi gwybod i arianwyr y prosiect (Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) ac i weithgareddau'r dyfodol o fewn rôl a swyddogaethau craidd y sefydliadau. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd:

  • I benderfynu a oes angen gwneud newidiadau i brosiectau archaeoleg gymunedol yn y dyfodol

  • I benderfynu a ddylai prosiectau fel Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas barhau yn y dyfodol

  • I ddeall y dulliau gorau o greu ffyrdd newydd o weithio gyda chymunedau

Mae Wavehill yn cynnal y gwerthusiad ar ran Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a RCAHMW. Mae eich cyfran bersonol yn ymchwil hon yn wirfoddol.


6. Beth yw diben prosesu eich atebion i'r arolwg?

Mae'r data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion ymchwil ac evaluation yn unig. Bydd y data yn cael ei ddadansoddi er mwyn galluogi Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a RCAHMW i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y prosiect. Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachu na marchnata, ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.


7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?

Bydd gan Wavehill fynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg. Ni chaiff y data ei rannu gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, RCAHMW, na neb arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis ar ôl diwedd y prosiect (arfaethedig i ddod i ben ym mis Awst 2024).


Int. Ref (750-23)

Related Posts

bottom of page