Roedd cael fy ngwahodd i siarad mewn digwyddiad wedi fy ysgogi i fyfyrio ar 15 mlynedd o werthuso prosiectau a rhaglenni datblygu gwledig yng Nghymru. Dechreuais yn 2006 (o diar ...) ac mae llawer wedi digwydd ers hynny (gan gynnwys 29 o iPhones gwahanol!). Roeddwn i eisiau sefydlu’r cefndir. Felly, i’m helpu i wneud hynny, penderfynais dreulio peth amser yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn edrych ar hen ddogfennau ‘Strategaeth Cymru Wledig’. Lluniwyd nifer ohonynt, gan gynnwys ‘Strategaeth ar gyfer Cymru Wledig’ a ysgrifennwyd gan Gyngor Cymru 50 mlynedd yn ôl, yn 1971.
Yr hyn a ddaeth i’r amlwg wrth ddarllen drwy’r dogfennau hyn oedd eu bod yn eithaf tebyg i’r strategaethau sydd ar gael heddiw. Roedd llawer o’r un materion a drafodwn heddiw yn cael eu trafod ymhell yn ôl yn 1971, ac eto drwy gydol y 1990au. Yn fwyaf nodedig, mae’r holl ddogfennau’n sôn am yr angen i fynd i’r afael ag allfudo pobl ifanc o gymunedau gwledig, a’r angen i arallgyfeirio’r economi wledig. Felly, beth sydd wedi newid? Beth sydd wedi’i gyflawni gan y biliynau sydd wedi’u gwario dros y blynyddoedd ar brosiectau a rhaglenni datblygu gwledig? Oni ddylem ni fod wedi mynd i’r afael â’r materion hynny erbyn hyn?
Mae’r rhain yn gwestiynau anodd i’w hateb; nid ydym yn gwybod, er enghraifft, a fyddai’r sefyllfa’n waeth/yn wahanol heddiw heb y buddsoddiadau hyn. Mae llawer o’r problemau sy’n wynebu ardaloedd gwledig hefyd yn rhai mawr iawn, ac yn anodd mynd i’r afael â hwy. Yr ydym i gyd yn gwybod hynny. Ond mae angen i ni ofyn y math yma o gwestiynau. Mae angen i ni hefyd fod yn fwy parod i herio ac (yr un mor bwysig) i gael ein herio ynghylch y rhaglenni, y cynlluniau a’r prosiectau sy’n cael eu cyflawni yn enw ‘datblygu gwledig’.
Yn gyffredinol, dywedir bod methiant yn dderbyniol, nes i chi fethu. Mae angen i ni fod yn barod i dderbyn y bydd rhai pethau’n methu, a dysgu o hynny. Mae angen i ni roi’r gorau i geisio osgoi wynebu’r ffaith nad yw rhai pethau’n gweithio, yn enwedig pan fydd prosiectau’n newydd, yn arloesol, neu’n gwthio’r ffiniau mewn rhyw ffordd arall. Wrth gwrs nad ydyn nhw ddim bob amser yn gweithio. Hyd nes y gwnawn ni wynebu hynny, fyddwn ni ddim yn dysgu o’r ‘methiannau’, ac mae’n beryg y byddwn yn gwneud yr un pethau eto.
Mae angen i ni hefyd herio ein hunain drwy gwestiynu a ydym yn llwyr ddeall y problemau mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu, neu’r cyfleoedd o ran hynny. Credir mai Einstein ddywedodd, pe bai ganddo awr i ddatrys problem a bod ei fywyd yn dibynnu ar yr ateb, y byddai’n treulio’r 55 munud cyntaf yn penderfynu ar y cwestiwn priodol i’w ofyn, oherwydd pe bai’n gwybod hynny, gallai ddatrys y broblem mewn llai na phum munud. Os nad ydych chi’n deall y broblem yn llawn, sut allwch chi ei datrys? Mae hyn yn golygu herio (y gair hwnnw eto) ein dealltwriaeth o faterion, a phrofi’r tybiaethau sy’n sail iddynt. A ydym yn deall yn iawn, er enghraifft, pam mae pobl ifanc yn gadael cymunedau gwledig?
Yn fy mhrofiad i, gall fod rhuthr i ddatblygu syniadau am brosiectau, ac i fod eisiau gweithredu. Ac eto, mae datrys problemau yn broses sy’n cynnwys y camau pwysig o gasglu gwybodaeth, penderfynu ar achos y mater, a nodi ystod o atebion posibl. Nid wyf yn siŵr ein bod bob amser yn rhoi digon o sylw i’r camau hynny yn y broses.
At hynny, unwaith y bydd prosiectau’n cael eu cyflawni, nid wyf yn siŵr a ydym yn treulio digon o amser yn adolygu’r hyn a gyflawnwyd ac (yn bwysig) yn rhannu canfyddiadau’r adolygiadau hynny ag eraill. Gwn fy mod yn gweithio ym maes gwerthuso ac felly y byddwn i wrth gwrs yn dweud hynny. Mae’n dal yn wir serch hynny!
Fy mhrif sylw, fodd bynnag, yw fod prosiectau, yn y bôn, yn ymwneud â phobl a’r lleoedd a’r cymunedau sy’n gynefin iddynt. Yn amlach na pheidio, mae unigolyn allweddol yn gefn i brosiect llwyddiannus neu fusnes llwyddiannus. Mae’r unigolyn hwnnw fel arfer yn llawn cymhelliant ac wedi ymrwymo i’r hyn mae’n ei wneud. Mae hon yn ffactor mor allweddol yn ‘llwyddiant’ prosiectau ac ni ellir tanddatgan ei phwysigrwydd. At hynny, mae lle neu gymuned yn aml yn allweddol i gymhelliant yr unigolyn hwnnw. Felly, dod o hyd i’r unigolion hynny ac ymgysylltu â hwy yw’r ffactor allweddol. Gellid gwneud mwy hefyd i ddarganfod beth sy’n ysgogi’r bobl allweddol hynny, a defnyddio hynny i ennyn diddordeb eraill yn y gymuned ac i ennyn eu brwdfrydedd.
Endaf Griffiths | Cyfarwyddwr
Comments