top of page
  • Wavehill

Ymagwedd iechyd cyhoeddus at leihau trais: sut y gall gwerthusiad effaith wella canlyniadau

Mae swyddfa Maer Llundain wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad manwl o broses ac effaith y Rhaglen Asesu Trais Domestig a Cham-drin mewn Amgylcheddau Iechyd Rhywiol (ADViSE).Mae’r cynllun ADViSE yn cefnogi clinigwyr iechyd rhywiol i adnabod ac ymateb i gleifion sydd wedi’u heffeithio gan drais a cham-drin domestig ac mae’n cynnig llwybr atgyfeirio syml at wasanaethau arbenigol.


Mae'r gwerthusiad hwn mewn partneriaeth â St Giles, sy'n darparu cefnogaeth i fenywod a merched drwy gymryd ymagwedd yn seiliedig ar drawma. Mae Wavehill yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gyd-gynhyrchu fframwaith gwerthuso arbenigol sydd yn cydbwyso dulliau ymchwil cynhwysol sy'n ystyriol o sensitifrwydd wrth aros yn ffrind annibynnol, beirniadol.

Mae hwn yn adeiladu ein proffil o waith gydag Unedau Lleihau Trais (VRU) ledled Lloegr, sydd wedi edrych o'r blaen ar ymagweddau iechyd cyhoeddus i leihau ac atal trais mewn adrannau damweiniau ac achosion brys (A&E), wrth leihau troseddau cyllyll ac mewn carchardai. Rydym wedi gweithio gyda VRUs gwahanol i sicrhau y gall tystiolaeth effeithiol a phriodol o effaith cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad rhaglenni pellach a chyllid yn y dyfodol.


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sarah Usher ac Andy Parkinson.

bottom of page