top of page
  • Wavehill

Ymchwil i Adolygiadau Canol Gyrfa Cymru yn Gweithio – cyfweliadau â rhanddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal ymchwil i adolygiadau canol gyrfa Cymru'n Gweithio. Nod yr ymchwil  hwn yw:

  • archwilio ac ystyried y dystiolaeth gychwynnol ar gyflwyno adolygiadau canol gyrfa gan wasanaeth Cymru'n Gweithio

  • darparu trosolwg o dystiolaeth o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol ar yr arfer o adolygiadau canol gyrfa.


Fel rhan o'r ymchwil hwn , bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth am gyflwyno adolygiadau canol gyrfa gan wasanaeth Cymru'n Gweithio drwy gyfweliadau gyda rhanddeiliaid.


Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy'r cyfweliadau, ac yn dienwi'r data, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies

Cyfeiriad e-bost: oliver.allies@wavehill.com

Rhif ffôn: 0330 1228658


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?


Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i’w adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.


Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt. Mae Wavehill wedi derbyn eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a, lle ble mae ar gael, rhif ffôn) gan un o'r canlynol:

  • gan Gyrfa Cymru sy'n dal eich manylion oherwydd eich ymwneud â rhaglen Cymru'n Gweithio, ac rydych wedi cytuno i'ch manylion gael eu rhannu â Wavehill i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn; neu

  • Roeddech yn cytuno y gallai eich manylion gael eu rhannu â Wavehill ar ôl i rywun sydd eisoes wedi cymryd rhan yn yr ymchwil hwn gysylltu â chi ac awgrym efallai hoffech gymryd rhan.

Bydd Wavehill ond yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn a ddarperir ar gyfer dibenion yr ymchwil hon.


Gwahoddir cyfranogwyr trwy e-bost i gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein. Os na dderbynnir ymateb, gall Wavehill anfon e-bost atgoffa arall neu, lle mae gwybodaeth ar gael, cysylltu â chyfranogwyr dros y ffôn. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn mwy o negeseuon atgoffa yna ymatebwch i’r e-bost gwahoddiad, neu rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn a ddarperir, a bydd eich manylion yn cael eu dileu.


Gallwch ddewis cymryd rhan mewn cyfweliad dros y ffôn a darparu eich rhif ffôn i wneud hynny, os nad yw Wavehill eisoes wedi'i dderbyn.


Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi, heblaw eich delwedd os ydych chi'n cytuno i gyfweliad ar-lein gael ei recordio.


Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os cofnodir cyfweliadau, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chofnodir trafodaethau, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.


Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i ddarparu argymhellion ar arfer adolygiadau canol gyrfa yn y dyfodol.


Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill ardystiad ‘cyber essentials’. 


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill  yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu i gynhyrchu adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?


Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.


Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r prosiect ymchwil hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch (mewn rhai amgylchiadau);

  • (Mewn rhai amgylchiadau); cael eich data ei dileu a

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk


Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


Enw: Sean Homer

Cyfeiriad e-bost: Sean.Homer001@gov.wales

Rhif ffôn: 0300 025 4045

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, Ebost: DataProtectionOfficer@gov.cymru. 




Related Posts

bottom of page